Mark Robert Davey

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ffotograffydd yw Mark Robert Davey (ganed yn 1968 yn Ilford, Lloegr). Symudodd Davey i Dalysarn yn Nyffryn Nantlle gyda'i deulu pan oedd yn naw oed, ac wedyn i Gricieth. Dysgodd Gymraeg fel plentyn. Mae'n hoff o natur a dringo mynyddoedd yng Nghymru a'r byd. Ar hyn o bryd mae'n byw ym Machynlleth mewn hen ysgol ac ysbyty Llys Maldwyn, Heol-y-Doll, lle mae hefyd yn arddangos ei waith.

Cynnwys

[golygu] Gyrfa

Ei hoff themâu yw tirwedd a phobl yng Nghymru. Mae wedi bod yn gweithio ar lyfrau ac erthyglau yng Nghymru, ac hefyd yng ngweddill Ewrop ac America. Mae'r Ddraig Goch yn ymddangos yn aml ei waith. Mae hefyd yn gweithio gyda ffilm ac mae diddordeb gan Davey mewn ffotograffiaeth digidol, portreadau stryd, portreadau newydd gan bobol, mewn lliw ac yn ddu a gwyn.

Bu'n ffotograffydd ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru ers deng mlynedd, mae wedi creu gwaith ar gyfer nifer o sefydliadau Cymreig a gweithio gyda enwogion a phobl eraill blaenllaw yn niwylliant Cymru megis Mererid Hopwood, Dafydd Iwan a Britta Schulze-Thulin yn yr Almaen, sy'n arbennigo ar Gymru a'r iaith Gymraeg.

[golygu] Arddangosfeydd (Detholiad)

  • "En Route", Castell Hanstein, Yr Almaen, Mai 2006 - Medi 2006
  • Archif Sgrin a Sain yn Riga, Latfia, Ebrill 2007 - Hydref 2007
  • Amgueddfa Mühlhausen, Yr Almaen, Ebrill 2007 - Hydref 2007
  • Eglwys St. Concordia, Ruhla, Yr Almaen, Haf 2007
  • Arddangosfa VW Kassel, Yr Almaen, Ebrill 2007 - Rhagfyr 2007

Mae arddangosfa mawr am Gymru yn Llyfrgell y Brifysgol a Sacsoni Isaf, Göttingen, Yr Almaen, yn dechrau ar 4 Ebrill 2008, o dan y teitl: "Panorama Cymru" (Paratoiadau gan Dr. Silke Glitsch, Dr. Jens Mittelbach, Annette Strauch, M.A.). Mae gan y Llyfrgell yno gasgliad o'r enw Sondersammelgebiet Keltologie (Casgliad Celtaidd), sy'n cynnwys pob llyfr sydd wedi ei gyhoeddi yng Nghymru heddiw. Mae llyfr gan Brynley F. Roberts, Dylan Thomas ac y Mabinogi i'w gweld yno.

[golygu] Dolenni allanol

[golygu] Ffynonellau

Offer personol
Parthau
Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill