Mark Fisher

Oddi ar Wicipedia
Mark Fisher
Ganwyd11 Gorffennaf 1968 Edit this on Wikidata
Caerlŷr Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ionawr 2017 Edit this on Wikidata
Felixstowe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, damcaniaethwr, blogiwr, athronydd, beirniad cerdd, academydd, cultural studies scholar Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Goldsmiths, Prifysgol Llundain Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCapitalist Realism: Is There No Alternative?, Exiting the Vampire Castle Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadFranz Kafka, Jacques Lacan, Gilles Deleuze, David Harvey, Fredric Jameson, Slavoj Žižek Edit this on Wikidata

Roedd Mark Fisher (11 Gorffennaf 196813 Ionawr 2017), yn awdur, athronydd, beirniad a sylwebydd diwylliannol.

Ysgrifennodd y blog llwyddiannus k-punk yn yr 2000 cynnar a daeth yn enwog am ei erthyglau ar wleidyddiaeth radicalaidd a diwylliant poblogaidd. Ysgrifennodd hefyd am sut brwydrodd gyda’r salwch iselder.[1]

Mae Fisher yn cael ei gofio’n bennaf am ei lyfr Capitalist Realism: Is There No Alternative? (2009) a gyhoeddwyd gan Zero Books. Roedd Fisher hefyd yn un o sylfaenwyr Zero Books ac wedyn Repeater Books.[2]

Bu farw yn Ionawr 2017 gan gyflawni hunanladdiad.

'Realaeth gyfalafol' a 'Hiraeth am y dyfodol'[golygu | golygu cod]

Defnyddiodd Fisher y term Capitalist Realism i ddisgrifio sut mae’r farchnad rydd gystadleuol yn cael ei hystyried fel yr unig system economaidd posib a bod hi bellach yn amhosib meddwl am alternatif. Dadleuodd Fisher fod yr ideoleg Neo-ryddfrydol (Neoliberalism ) yn treiddio, dylanwadu a rheoli pob agwedd o ddiwylliant, gwaith ac addysg ac yn llesteirio meddyliau a gweithredoedd.[3]

Bu Fisher yn gyfrifol am boblogeiddio’r term Hauntology (cysyniad gwreiddiol yr athronydd Jacques Derrida) i gyfleu hiraethu am ddyfodol neu fyd gwell a gobeithiwyd amdano ond sydd heb ddod i fodolaeth. Credodd Fisher fod diwylliant presennol wedi rhoi’r gorau i geisio dyfeisio dyfodol ac yn bodloni ar hiraethu ac ail-wampio.[4]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Roedd Mark Fisher yn un o sylfaenwyr Zero Book

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am athronydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.