Mark E. Smith

Oddi ar Wicipedia
Mark E. Smith
GanwydMark Edward Smith Edit this on Wikidata
5 Mawrth 1957 Edit this on Wikidata
Salford Edit this on Wikidata
Bu farw24 Ionawr 2018 Edit this on Wikidata
o canser yr ysgyfaint, canser yr arennau Edit this on Wikidata
Prestwich Edit this on Wikidata
Label recordioRough Trade Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Philips High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, awdur geiriau, cyfansoddwr caneuon, bardd, actor, canwr-gyfansoddwr, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddullôl-pync, roc amgen, art punk, cerddoriaeth arbrofol, spoken word, cerddoriaeth y byd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolSocialist Workers Party Edit this on Wikidata
PriodElena Poulou, Brix Smith Edit this on Wikidata

Roedd Mark Edward Smith (5 Mawrth 195724 Ionawr 2018) yn ganwr ac ysgrifennwr o Fanceinion, yn brif ganwr ac unig aelod cyson o'r grŵp post-punk The Fall rhwng 1976 a 2018.

Roedd Smith yn enwog am ei steil sinigaidd a hiwmor eironig, acen gref Fanceinion ac yn ymddangos i beidio ag ymddiddori yn enwogrwydd neu sglein y byd pop.

Ganwyd Smith i deulu dosbarth gweithiol yn Salford gyda’r teulu wedyn yn symud i fyw yn ardal Prestwich gerllaw.

Gadawodd yr ysgol yn 16 oed i weithio fel clerc yn y dociau ond yn cymryd dosbarthiadau nos lefel-A yn llenyddiaeth Saesneg.

The Fall[golygu | golygu cod]

Ffurfiwyd The Fall yn Prestwich ym 1976 ar ôl i Smith cael ei ysbrydoli gan gig Sex Pistols ym Manceinion – yr aelodau gwreiddiol yn Mark E Smith, Martin Bramah, Una Baines a Tony Friel.[1]

Er i Smith ymddangos ar olwg cyntaf i fod yn iob di-addysg, roedd Smith yn wybodus iawn am sawl agweddau o lenyddiaeth a chelfyddydau. Cymerwyd enw'r band o lyfr Albert Camus The Fall. Roedd yn hoff o waith y cyfansoddwr Almaenig Karlheinz Stockhausen a dylanwadwyd ei sŵn gan fandiau avant-garde megis Can, Velvet Underground, Captain Beefheart ac The Monks.[2]

Dros 40 o flynyddoedd cafodd The Fall mwy na 60 o aelodau gwahanol, wrth i Smith ddod yn enwog am fod yn benstiff gan ddiswyddo cerddorion trwy’r amser.

Gadawyd un aelod yn Awstralia, y band yn symud ymlaen i'w gigs nesaf yn Japan gan ei adael heb ffordd i fynd adref.[3]. Credir i Smith rhoi’r sac i beiriannydd stiwdio am feiddio ofyn am salad.

Roedd cyflwynydd BBC radio Marc Riley yn aelod o’r Fall rhwng 1978 a 1983 cyn iddo hefyd cael y sac.

Dywedodd Smith: Os mae’n fi a dy nain ar bongos – The Fall ydi o [4]

Rhwng 1979 a 2017 The Fall rhyddhawyd dros 32 o recordiau hir stiwdio, eu steil yn hynod o gyson dros y degawdau er gwaethaf yr holl newidiadau mewn cerddorion.

The Fall - 2013
Mark E. Smith

Roedd John Peel yn gefnogwr brwd y band gan chwarae eu recordiau’n o hyd ar ei raglen radio hwyr y nos. Recordiodd The Fall 24 o sesiynau i raglen Peel, mwy nag unrhyw fand arall.[5]

Ar y cyfan roedd poblogrwydd The Fall yn gyfyngedig i ddilyniant 'cult' brwd. Er cafodd y band beth lwyddiant masnachol ar ddiwedd y 1980au, y caneuon Telephone Thing, Hit The North a Ghost in My House yn cyrraedd y siartiau sengl. Serch hynny gwrthododd Smith ymddangos ar raglen Top of the Pops.[6][7]

Recordiau hir stiwdio[golygu | golygu cod]

Rhyddhawyd nifer o recordiau o berfformiadau fyw'r band hefyd - er i Mark E Smith fod yn anfodlon ar eu rhyddhau.[8]

  • Live at the Witch Trials (1979)
  • Dragnet (1979)
  • Grotesque (1980)
  • Hex Enduction Hour (1982)
  • Room to Live (1982)
  • Perverted by Language (1983)
  • The Wonderful and Frightening World Of... (1984)
  • This Nation's Saving Grace (1985)
  • Bend Sinister (1986)
  • The Frenz Experiment (1988)
  • I Am Kurious Oranj (1988)
  • Extricate (1990)
  • Shift-Work (1991)
  • Code: Selfish (1992)
  • The Infotainment Scan (1993)
  • Middle Class Revolt (1994)
  • Cerebral Caustic (1995)
  • The Light User Syndrome (1996)
  • Levitate (1997)
  • The Marshall Suite (1999)
  • The Unutterable (2000)
  • Are You Are Missing Winner (2001)
  • The Real New Fall LP (Formerly Country on the Click) (2003)
  • Fall Heads Roll (2005)
  • Reformation Post TLC (2007)
  • Imperial Wax Solvent (2008)
  • Your Future Our Clutter (2010)
  • Ersatz GB (2011)
  • Re-Mit (2013)
  • Sub-Lingual Tablet (2015)[9]
  • New Facts Emerge (2017)

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Walters, Sarah. "Four Manchester bands we owe to the Sex Pistols' Lesser Free Trade Hall gig 40 years ago". Manchester Evening News, 3 Mehefin 2016. Adalwyd 24 Ionawr 2018
  2. Reynolds, Simon (2006). Rip It Up and Start Again: Postpunk 1978–1984. Faber and Faber. ISBN 978-0-571-21570-6.
  3. Tudalen 107. The Fallen: Life In and Out of Britain's Most Insane Group Awdur Dave Simpson
  4. If it's me and yer granny on bongos, it's the Fall https://www.brainyquote.com/quotes/mark_e_smith_555962
  5. https://en.wikipedia.org/wiki/The_Fall:_The_Complete_Peel_Sessions_1978%E2%80%932004
  6. Mark E Smith: British rock's cult hero". BBC, 24 Ionawr 2018. Adalwyd 24 Ionawr 2018
  7. "Mark E. Smith: Dead at 60 Archifwyd 2018-01-25 yn y Peiriant Wayback.. Getintothis.co.uk, 24 Ionawr 2018. Adalwyd 24 Ionawr 2018
  8. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-11-28. Cyrchwyd 2018-01-26.
  9. "News | The Fall Announce Sub-Lingual Tablet". The Quietus. Cyrchwyd 2015-07-17.