Marilyn vos Savant
Oddi ar Wicipedia
| Marilyn vos Savant | |
|---|---|
| Ganwyd | Marilyn Mach Awst 11, 1946 St. Louis,Missouri yr Unol Daleithiau |
| Yn enwog am | golofn cylchgrawn; IQ uchaf yn ôl Guinness Records |
| Galwedigaeth | Awdur |
| Priod | Robert Jarvik (1987-presennol) |
| Gwefan | www.marilynvossavant.com |
Colofnydd, awdur, darlithydd, a dramodydd o Americanes yw Marilyn vos Savant (ganwyd 11 Awst 1946) a ddaeth yn enwog am ddal "yr IQ Uchaf" yn ôl y Guinness Book of World Records o 1985 hyd 1989. Ers 1986 ysgrifenna hi'r golofn "Ask Marilyn" pob Dydd Sul yng nghylchgrawn Parade gan ddatrys posau ac ateb cwestiynau darllenwyr ar amryw o bynciau.