Marie Curie Cancer Care
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad elusennol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1948 |
Gweithwyr | 4,274, 4,317, 4,234, 4,228, 3,883 |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad elusennol |
Pencadlys | Llundain |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.mariecurie.org.uk/ |
Elusen gofrestredig sy'n darparu gofal yn rhad ac am ddim i gleifion sy'n dioddef o gancr terfynol ydy Marie Curie Cancer Care. Gwnant hyn yng nghartrefi'r cleifion ac mewn hosbisau. Sefydlwyd yr elusen yn 1948, sef yr un flwyddyn a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Yn y flwyddyn ariannol 2010/11, darparodd yr elusen ofal i 31,800 o gleifion yn y gymuned ac yn ei naw hosbis, ynghyd â darparu cefnogaeth i deuluoedd y cleifion hefyd.[1] Mae dros 2,700 o nyrsys, doctoriaid a gweithwyr iechyd eraill yn darparu'r gofal hwn.
Yn naw hosbis Marie Curie, telir sylw i safon byw y cleifion yn ogystal â darparu cefnogaeth allweddol i'w teuluoedd. Marie Curie yw'r darparwr mwyaf o welyau hosbis y tu allan i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.[1]