Marguerite de Navarre

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Maguerite de Navarre yn chwarae gwyddbwyll gyda'i brawd Francois d'Angoulême (o'r llyfr Échecs amoureux, 16eg ganrif)

Enw mwyaf cyfarwydd Marguerite d'Angoulême (11 Ebrill, 1492 - 21 Rhagfyr, 1549), a elwir hefyd Marguerite d'Alençon, Duchesse d'Alençon, chwaer Ffransis I, brenin Ffrainc (1494-1597), gwraig yn gyntaf i Ddug Alençon ac ar ôl marwolaeth y dug yn wraig i Henri d'Albret, brenin Navarre; trwy'r cysylltiad olaf mae hi'n hynafes i linach y brenhinoedd Bourbon. Llenores Ffrangeg, awdur yr Heptaméron a gweithiau eraill.

Roedd hi'n ddynes o gymeriad uchel, deallus, eangfrydig, hoff o fywyd ac yn credu mewn rhyddid ysbrydol ac eto ar yr un pryd yn ddefosiynol iawn yn ei chrefydd. Dysgodd Ladin, Eidaleg a Sbaeneg ac astudiodd Hebraeg hefyd. Edmygai waith Plato a hyrwyddodd gyfieithiadau o'i Ddeialogau. Cefnogai Évangélisme a rhoddodd nawdd yn ei llys i wŷr goleuedig a erlidid gan y diwinyddion uniongred, yn eu plith Lefèvre d'Étaples, y bardd Clément Marot (1496-1594) a'r ysgolhaig clasurol Bonaventure Des Périers (m. c. 1544); amddiffynai hefyd Jean Calvin (1509-1564).

Gwaith Llenyddol[golygu]

Ei phrif waith llenyddol yw'r Heptaméron, casgliad o chwedlau mewn stori fframwaith a gyhoeddwyd ar ôl ei marwolaeth (1558). Roedd hi'n barddoni hefyd a cheir rhai o'i cherddi gorau yn y cyfrolau Miroir de l'âme pécheresse a Chansons spitiruelles; cyhoeddwyd yr olaf gan aelod o'i llys dan y teitl Marguerites de la Marguerite des princesses. Ysgrifennodd yn ogystal nifer o ddramâu; y pwysicaf ydyw Comédie à dix personnages (1542), Comédie jouée à Mont de Marsan en 1547 a'r ddrama ysbrydol ddiddorol Comédie de la Nativité de Jésvs Christ (1547).

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Michel François (gol.), Marguerite de Navarre[:] L'Heptaméron (Paris, 1950).
  • F. Frank (gol.), Les Marguerites de la Marguerite des Princesses, 4 cyfrol (Paris, 1873).
  • Pierre Jourda (gol.), Marguerite de Navarre[:] Comédie de la Nativité de Jesvs Christ (Paris, d.d.).
  • Pierre Jourda, Une Princesse de la Renaissance: Marguerite d'Angoulême, reine de Navarre (Paris, 1932).
  • Verdun L. Saulnier (gol.), Marguerite de Navarre[:] Théatre Profane (Paris, 1946).