Margo MacDonald

Oddi ar Wicipedia
Margo MacDonald
Ganwyd19 Ebrill 1943 Edit this on Wikidata
Hamilton Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ebrill 2014 Edit this on Wikidata
Caeredin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Hamilton Academy
  • Dunfermline College of Physical Education Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
SwyddMember of the 1st Scottish Parliament, Member of the 4th Scottish Parliament, Member of the 2nd Scottish Parliament, Member of the 3rd Scottish Parliament, Member of the 1st Scottish Parliament, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Genedlaethol yr Alban Edit this on Wikidata
PriodJim Sillars Edit this on Wikidata
Margo MacDonald
Aelod o Senedd Yr Alban
dros Lothian
Lothians
(1999-2011)
Yn ei swydd
6 Mai 1999 – 4 Ebrill 2014
Aelod o Senedd San Steffan
dros Glasgow Govan
Yn ei swydd
8 Tachwedd 1973 – 28 Chwefror 1974
Rhagflaenydd John Rankin
Olynydd Harry Selby
Mwyafrif 571 (3.5%)

Roedd Margo MacDonald (née Aitken; 19 Ebrill 19434 Ebrill 2014) yn wleidydd Albanaidd dylanwadol.[1] Bu'n Aelod Seneddol dros Blaid Genedlaethol yr Alban ac ar un adeg yn Ddirprwy Arweinydd. Yn ddiweddarach daeth yn aelod o Senedd yr Alban ASA fel aelod Annibynnol dros Ranbarth Lothian. Yn y 1970au poblogeiddiodd yr SNP ac wedi iddi gael ei hethol yn 1999 trodd "o fod yn Aelod Seneddol i fod yn seneddwr", gan barhau'n garismatig i boblogeiddio'r syniad o Lywodraeth Annibynnol.[1]

Y dyddiau cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Margo yn Hamilton, De Swydd Lanark ac fe'i magwyd yn Nwyrain Kilbride, yn un o dri phlentyn.[2] Nyrs meddygol oedd ei mam Jean a disgrifiodd ei thad Robert fel "dyn creulon iawn".[3] Pan oedd Margo'n 12 oed, gwahanodd y fam oddi wrth y tad.[4] Cafodd ei haddysg yn Academi Hamilton ac fe'i hyfforddwyd i fod yn athrawes addysg gorfforol yng Ngholeg Dunfermline wedi iddi adael yr ysgol uwchradd.[5]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Bu'n lladmerydd diysgog ynglŷn ag annibyniaeth i'r Alban o'r cychwyn cyntaf pan enillodd sedd is-etholiad Glasgow Govan yn 1973 dros yr SNP a hithau'n 30 oed.[6] Daeth yn boblogaidd iawn ar unwaith, gyda llawer o'i chefnogwyr yn hysterig yn eu cefnogaeth tuag ati. Torrodd y mold a gynhaliwyd gan Plaid Lafur yr Alban am gyfnod mor hir. Ychydig wedyn (yng ngwanwyn 1974) yr enillodd Dafydd Wigley Etholaeth Arfon a Dafydd Elis Thomas Etholaeth Meirionnydd yng Nghymru, o bosib oherwydd buddugoliaeth Margo.[7]

Honodd fod y KGB a'r CIA yn y 1970au wedi'i thwyllo gan gogio bod yn newyddiadurwyr er mwyn ei dennu a chwarae rhan o fewn i'r SNP; honodd hefyd fod MI5 wedi gwneud yr un peth yn bennaf oherwydd y gredo y gallai cyfalaf olew Môr y Gogledd arwain at annibyniaeth i'r Alban.[8]

Yn Chwefror 1974, er ei phoblogrwydd, methodd ddal ei gafael yn ei sedd, ond daeth yn Ddirprwy Arweinydd yr SNP. Beirniadodd yr SNP am fethu a thorri drwodd yn yr ardaloedd diwydiannol a chynghorodd y blaid i symud yn fwy i'r asgell chwith er mwyn gwneud hyn.[3] Methodd gipio is-etholiad Hamilton yn 1978. ac yn etholiad cyffredinol y flwyddyn ganlynol yn Glasgow Shettleston.

Oherwydd ei theyrngarwch i'r asgell chwith, ni chafodd ei hailethol yn ddirprwy ei phlaid yn 1979,[3] ac yn 1982, ymddiswyddodd o'r SNP a throdd at waith radio a theledu[9] gan gynnwys y rhaglen Colour Supplement ar Radio 4 yng nghanol y 1980au a phapurau fel yr Edinburgh Evening News yn y blynyddoedd olaf o'i hoes.

Erbyn canol y 1990au roedd wedi dychwelyd i gorlan yr SNP a chafodd ei hethol yn Aelod o Lywodraeth yr Alban yn 1999.

Ymladdodd yn llwyddiannus fel aelod annibynnol o Lywodraeth yr Alban yn 2003, 2007 ac eto yn 2011. Yn yr adeg lleisiodd ei barn dros ymgyrchoedd megis yr hawl i hunanladdiad oherwydd afiechyd angheuol.[10]

Yn 2014 gofynnodd Margo i MI5 beidio ag ymyrryd yn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014 ac awgrymodd fod ganddyn nhw bobl o fewn yr SNP.[8]

Fy hawl i farw[golygu | golygu cod]

Diagnoswyd fod ganddi glefyd Parkinsons, ac yng Ngorffennaf 2008 gwnaeth raglen ddogfen i BBC yr Alban am yr hawl i farw; ar y rhaglen dywedodd:

"As someone with a degenerative condition - Parkinson's - this debate is not a theory with me. The possibility of having the worst form of the disease at the end of life has made me think about unpleasant things. I feel strongly that, in the event of losing my dignity or being faced with the prospect of a painful or protracted death, I should have the right to choose to curtail my own, and my family's, suffering."[11]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 STV News; Bernard Ponsonby mewn cyfweliad cofiannol; Archifwyd 2014-04-08 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 4 Mai 2914.
  2. Obituary for Margo MacDonald, telegraph.co.uk; adalwyd 5 Ebrill 2014.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Margo MacDonald's Herald Scotland obituary". 5 Ebrill 2014. Cyrchwyd 5 Ebrill 2014.
  4. "Interview: Why Margo MacDonald is determined to have the right to choose when she dies". 7 Hydref 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-07. Cyrchwyd 5 Ebrill 2014.
  5. "Archive interview: Margo MacDonald's crusade to die with dignity". The Herald. 4 Ebrill 2014. Cyrchwyd 4 Ebrill 2014. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  6. Patterson, Will (Hydref 2013). O’r Alban - Margo MacDonald: Gwerthfawrogiad, Rhifyn 609. Barn. URL
  7. "SNP shock for Labour in Govan". The Glasgow Herald. 9 Tachwedd 1973. Italic or bold markup not allowed in: |newspaper= (help)
  8. 8.0 8.1 "MI5 spies told: stay out of referendum". 9 June 2013. Cyrchwyd 5 Ebrill 2014.
  9. "Margo MacDonald: The life and times of a political 'blonde bombshell'". 4 Ebrill 2014. Cyrchwyd 4 Ebrill 2014.
  10. "Assisted suicide bill published by MSP Margo MacDonald". 21 Ionawr 2010. Cyrchwyd 4 Ebrill 2014.
  11. "BBC Scotland, 15 Gorffennaf 2008". BBC News. 15 Gorffennaf 2008. Cyrchwyd 6 Mai 2011.