Margiad Evans

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Margiad Evans
Geni Peggy Eileen Whistler
17 Mawrth 1909(1909-03-17)
Uxbridge, Middlesex, Lloegr
Marw 17 Mawrth 1958 (49 oed)
Tunbridge Wells, Caint, Lloegr
Galwedigaeth Bardd, nofelydd a darlunydd
Cenedligrwydd Seisnig
Addysg Coleg Celfyddydau Henffordd
Gwaith nodedig Country Dance
Priod George Michael Mendus Williams
Plant Cassandra

Enw llenyddol y bardd, nofelydd a'r darlunydd Eingl-Gymreig, Peggy Eileen Whistler, oedd Margiad Evans (17 Mawrth 190917 Mawrth 1958).[1]

Bywgraffiad[golygu]

Ganed Peggy Whistler yn Uxbridge, Middlesex, yn ferch i Godfrey James Whistler (1866–1936), clerc ysiwrans. Tyfodd ei anwyldeb tuag at gefn gwlad Swydd Henffordd ers iddi gychwyn ymweld a'i modryb yn y Rhosan ar Wy o 1918 ymlaen. Symudodd y teulu i fyw gerllaw yn Bridstow ym 1921, ac addysgwyd yn y Rhosan ac yng Ngholeg Celfyddydau Henffordd.

Cymerodd ei enw llenyddol oddi wrth mam ei thad, Evans oedd ei henw hi. Lleolwyd ei nofelau enwocaf yn yr ardal, sef Country Dance (1932) ac Autobiography (1943). Ysgrifennodd dri dilyniant i Country Dance (a grewyd yn gyfres radio BBC yn 2006), sef The Wooden Doctor (1933), Turf or Stone (1934), a Creed (1936). Darluniodd rhai o'i chyfrolau ei hunan yn ogystal.

Priododd Whistler Gymro, George Michael Mendus Williams, ar 28 Hydref 1940, ac aethont i fyw i fferm yn Llangarron, lle bu ei gŵr yn gweithio. Rhoddodd orau ar ysgrifennu pumed nofel i ysgrifennu hunangofiant yn ei le. Cyhoeddodd hefyd gyfrol o farddoniaeth, Poems from Obscurity (1947), a straeon byrion, The Old and the Young (1948), a ysgrifennodd tra roedd ei gŵr yn gwasanaethu'r fyddin. Symudont i Elkstone, ger Caerloyw ym 1950, lle hyfforddodd ei gŵr i ddod yn athro. Darganfu ei bod yn epileptig ac arweiniodd hyn at A Ray of Darkness (1952).

Ganed eu merch Cassandra ym 1951, a symudodd y teulu i Hartfield, Sussex ym 1953, lle dechreuodd ei gŵr ddysgu. Dechreuodd ddiddef o iechyd gwael ac roedd yn hiraethu am y Mers. Ysgrifennodd hanes ei bywyd wedi iddi dderbyn diagnosis o dyfiant ar yr ymenydd, sef The Nightingale Silenced (1954). Enillodd ei hail gyfrol o farddoniaeth, A Candle Ahead (1956), wobr gan bwyllgor Cymreig y Cyngor Celfyddydau Prydeinig ychydig wythnosau cyn iddi farw, ar ei phen-blwydd ar 17 Mawrth 1958 yn Tunbridge Wells, Caint.

Mae diddordeb yng ngwaith Margiad Evans wedi cael ei adfywio ers yr 1990au hwyr, wedi ail-gyhoeddiad The Old and the Young ym 1998, a Country Dance a The Wooden Doctor yn 2005 a Turf or Stone yn 2010. Cynhaliwyd cynhadledd ei chanmlwyddiant yn Aberystwyth yn 2009.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Lloyd-Morgan, Ceridwen. "Williams, Peggy Eileen (1909–1958)". Oxford Dictionary of National Biography (online ed.). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/96737.  (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  2. [1].

Darllen pellach[golygu]

  • Moira Dearnley: Margiad Evans (Gwasg Prifysgol Cymru, 1982) ISBN 0-7083-0820-1
  • I. Parry, 'Margiad Evans', yn Speak Silence Essays (1988)
  • Ceridwen Lloyd-Morgan: Margiad Evans (Seren Books, 1998) ISBN 1-85411-220-1

Dolenni allanol[golygu]