Margaret Mitchell
Oddi ar Wicipedia
| Margaret Mitchell | |
|---|---|
Margaret Mitchell |
|
| Ganwyd | 8 Tachwedd, 1900 Atlanta, Georgia, |
| Bu farw | 16 Awst, 1949 Atlanta, Georgia, UDA |
| Galwedigaeth | Nofelydd |
Roedd Margaret Munnerlyn Mitchell (8 Tachwedd, 1900 – 16 Awst, 1949) yn awdures Americanaidd, a enillodd y Wobr Pulitzer ym 1937 am ei nofel Gone with the Wind. Y nofel hon yw un o'r nofelau mwyaf poblogaidd erioed, gan werthu dros 30 miliwn o gopïau. Rhyddhawyd addasiad ffilm Americanaidd o'r nofel ym 1939, a dyma oedd y ffilm a wnaeth fwyaf o arian erioed yn hanes Hollywood a thorrodd pob record gyda deg o Wobrau'r Academi.