Maredudd ab Edwin

Oddi ar Wicipedia
Maredudd ab Edwin
Bu farw1035 Edit this on Wikidata
TadEdwin ab Einion Edit this on Wikidata
Croes Maredudd ab Edwin yng Nghaeriw

Roedd Maredudd ab Edwin (bu farw 1035) yn frenin Deheubarth o 1033 hyd ei farwolaeth.

Roedd Hywel yn fab i Edwin ab Einion o linach Hywel Dda. Pan fu Rhydderch ab Iestyn, oedd wedi cipio teyrnas Deheubarth, farw yn 1033 daeth Maredudd yn frenin Deheubarth, yn ei rhannu gyda'i frawd Hywel.

Bu farw Maredudd yn 1035, gan adael Hywel i deyrnasu ar Ddeheubarth. Codwyd croes Geltaidd ym mhentref Caeriw (Sir Benfro heddiw) i'w goffáu; ystyrir y groes yma yn un o'r rhai gorau yng Nghymru.