Marchnad St George, Belffast
Oddi ar Wicipedia
Adeiladwyd Marchnad St George rhwng 1890 a 1896, mae'r farchnad ar agor pob dydd Gwener rhwng 6yb a 2yp i werthu ffrwythau, llysiau, cig, pysgod, hen gelfi, llyfrau a dillad. Pob dydd Sadwrn rhwng 9yb a 3yp, mae'n agored i werthu bwyd lleol ac o'r canoldir: bwydydd arbennig, megis cig, pysgod, caws, ffa coffi, tapas a chynnyrch organic. Ar y Sul rhwng 10yb a 4yp, ceir stondinau gyda chymysgedd o'r nwydaud uchod, ac hefyd celf a chrefftau lleol. Mae cantorion a bandiau lleol yn perfformio yno a chynhelir cyngherddau yn yr adeilad hefyd.[1]
Mae marchnad ddydd Gwener wedi cael ei chynnal ar y safle ers 1604.[2]