Marc Dutroux

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Llofrudd cyfresol Belgaidd yw Marc Dutroux (ganwyd 6 Tachwedd 1956).

Ym 1989 cafwyd yn euog o bum achos o ymosodiad rhywiol a dedfrydwyd i garchar am 13 mlynedd, ond cafodd ei ryddhau ar ôl tair mlynedd. O 1992 hyd 1996, cipiodd a threisiodd nifer o ferched. Cyhuddwyd yr heddlu o anwybyddu gwybodaeth a chyhuddiadau yn erbyn Dutroux. Ym 1996, chwiliwyd un o'i dai a chanfwyd dwy ferch yn eu harddegau wedi'u cadw mewn cell. Ychydig o ddyddiau'n hwyrach, cafodd dwy ferch arall, wyth mlwydd oed, eu canfod wedi'u claddu mewn un o'i dai arall. Yn 2004 cafwyd Dutroux yn euog o lofruddiaeth, herwgipio, a thrais rhywiol a dedfrydwyd i garchar am oes.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) John Philip Jenkins. Marc Dutroux. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Tachwedd 2012.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:


Baner BelgiumEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Felgiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.