Marathon Eryri
Oddi ar Wicipedia
| Marathon Eryri | |
|---|---|
Eryri yn ei ogoniant |
|
| Dyddiad | Hydref |
| leoliad | Parc Cenedlaethol Eryri |
| Math | Mynydd |
| Pellter | Marathon |
| Sefydlwyd | 1982 |
| Official site | http://www.snowdoniamarathon.co.uk/ www.snowdoniamarathon.co.uk |
Ras farathon a gynhelir yn Eryri, Gwynedd yw Marathon Eryri. Cafodd ei sefydlu yn 1982. Cafodd y marathon ei enwi yng nghylchgrawn Runners World yn 2007 fel y marathon gorau yng ngwledydd Prydain.[1]
Mae'r marathon yn cychwyn ac yn gorffen ger pentref Llanberis wrth droed Yr Wyddfa. Mae'n dilyn yr hen ffordd trwy Nant Peris - lle arferid ei chychwyn - i fyny hyd at Ben-y-Gwryd. Oddi yno mae'n disgyn i lan Llyn Dinas ac ymlaen i bentref Beddgelert ac yna'n cylchu'n ôl yr ochr arall i'r Wyddfa hyd bentrefi Rhyd-ddu a Waunfawr cyn croesi llethrau'r mynydd i orffen yn ôl yn Llanberis. Cofrestrwyd dros 2,000 o redwyr yn ras 2010.[1]
Cynnwys |
Canlyniadau y Dynion [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 1.0 1.1 "Miloedd yn cystadlu ym Marathon Eryri", Newyddion BBC Cymru, 30.10.2010.