Mao Zedong

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Mao Zhedong)
Mao Zedong
Ganwyd毛澤東 Edit this on Wikidata
26 Rhagfyr 1893 Edit this on Wikidata
Shaoshan Edit this on Wikidata
Bu farw9 Medi 1976 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Zhongnanhai Edit this on Wikidata
Man preswylZhongnanhai, Mao Zedong's Former Residence, Former residence of Mao Zedong during his first stay in Beijing Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrenhinllin Qing, Gweriniaeth Tsieina, Chinese Soviet Republic, Gweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Dongshan Senior High School
  • Xiangxiang First Senior High School
  • The First High School of Changsha, Hunan
  • Hunan First Normal University Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, bardd, ysgrifennwr, athronydd, athro, llyfrgellydd, strategist, damcaniaethwr gwleidyddol, chwyldroadwr, caligraffydd Edit this on Wikidata
SwyddChairman of the Chinese Communist Party, Chairman of the Central Military Commission of the Chinese Communist Party, Chairman of the National Committee of the Chinese People's Political Consultative Conference, Arlywydd Gweriniaeth Pobl Tsieina, member of the National Political Assembly, member of the Politburo Standing Committee of the Chinese Communist Party, member of the Politburo Standing Committee of the Chinese Communist Party Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Peking University Library Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLlyfr Coch Bach, Selected works of Mao Zedong, Poetry of Mao Zedong, calligraphy of Mao Zedong, On the People's Democratic Dictatorship, Three Old Articles, On Coalition Government, Bombard the Headquarters, Statement by comrade Mao Zedong, chairman of the Central Committee of the Communist Party of China, in support of the Afro-American struggle against violent repression Edit this on Wikidata
Taldra180 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol Tsieina, Kuomintang Edit this on Wikidata
MudiadMarcsiaeth–Leniniaeth–Maoaeth Edit this on Wikidata
TadMao Yichang Edit this on Wikidata
MamWen Qimei Edit this on Wikidata
PriodLuo Yixiu, Yang Kaihui, He Zizhen, Jiang Qing Edit this on Wikidata
PlantMao Anying, Mao Anqing, Mao Anlong, Yang Yuehua, Li Min, Li Na Edit this on Wikidata
Gwobr/auPeople's Liberation Army Strategist Edit this on Wikidata
llofnod

Mao Zedong (hefyd Mao Ze-dong neu Mao Tse Dong yn Gymraeg)[1] (Tsieineeg 毛泽东 neu 字润之 "Cymorth – Sain" ynganiad ) (26 Rhagfyr, 18939 Medi, 1976) oedd arweinydd y Chwyldro Tsienëaidd ac arlywydd Gweriniaeth Pobl Tsieina.

Blynyddoedd cynnar[golygu | golygu cod]

Cafodd ei eni i rieni gwerinol yng nghefn gwlad Hunan. Erbyn 1920 roedd yn proffesu Marcsiaeth a helpodd sefydlu Plaid Gomiwnyddol Tsieina yn 1921. Erbyn diwedd y 1920au roedd yn arweinydd herwfilwrol yn ymladd yn erbyn y Guomindang (Plaid Genedlaethol Tsieina), oedd dan arweinyddiaeth Chiang Kai-Shek.

Yr Orymdaith Hir[golygu | golygu cod]

Yn 1931 daeth yn gadeirydd sofiet Jianxi. Pan orfodwyd y Comiwnyddion i ffoi o Jianxi yn 1934 fe'u harweinwyd gan Mao ar yr Orymdaith Hir. Rhoddwyd pris o $250,000 ar ei ben gan y llywodraeth. Pan gyrhaeddodd Yan'an yn 1935 roedd yn cael ei gydnabod fel un o arweinyddion pennaf y Blaid Gomiwnyddol.

Y Rhyfel Gwladgarol Mawr[golygu | golygu cod]

Ar ôl i'r blaid honno ymuno â'i hen elynion y Guomindang i ymladd yn erbyn lluoedd Siapan yn ystod Rhyfel Tsiena a Siapan (1937 - 1945), a elwir weithiau "Y Rhyfel Gwladgarol Mawr", a gorchfygu'r goresgynwyr, ail-gychwynodd y rhyfel cartref. Dan arweinyddiaeth Mao ac eraill gorchfygwyd y Guomindang a ffoasant i Daiwan i ffurfio llywodraeth mewn alltudiaeth ar yr ynys honno.

Cyhoeddi Gweriniaeth Pobl Tsieina[golygu | golygu cod]

Yn 1949 cyhoeddodd Mao, a oedd erbyn hynny'n Gadeirydd y Blaid Gomiwnyddol, Weriniaeth Pobl Tsieina. Roedd ysgrifau gwleidyddol Mao yn cael eu derbyn fel sylfaen athronyddol y wladwriaeth newydd a'i llywodraeth gomiwnyddol ac ar eu sail sefydlwyd comiwnau a'r Naid Fawr Ymlaen.

Y Chwyldro Diwylliannol[golygu | golygu cod]

Ymddiswyddodd Mao fel cadeirydd swyddogol y blaid yn 1958, ond mewn gwirionedd bu iddo gadw llawer o rym. Daeth yn ffigwr canolog yn y Chwyldro Diwylliannol yn ystod y 1960au pan welid ei lun a'i Lyfr Coch Bach ymhob man.

Yr olyniaeth[golygu | golygu cod]

Pan fu farw yn 1976 ceisiodd ei drydedd wraig Jiang Qing ("Madam Mao") a'i chefnogwyr gymryd drosodd y blaid a'r wlad ond roeddent yn aflwyddiannus a chymerodd Hua Guo Feng le Mao fel arweinydd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]