Mantell oren resog

Oddi ar Wicipedia
Mantell oren resog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Nymphalidae
Genws: Hypanartia
Rhywogaeth: H. lethe
Enw deuenwol
Hypanartia lethe
(Fabricius, 1793)
Cyfystyron

Papilio lethe Fabricius 1793
Hypanartia demonica Hübner, 1821

Glöyn byw sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae yn urdd y Lepidoptera yw mantell oren resog, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll oren rhesog; yr enw Saesneg yw Small Brown Shoemaker, a'r enw gwyddonol yw Hypanartia lethe.[1][2] Yng nghanol a de America mae'r Fantell oren resog yn byw gan fwyaf: o Fecsico i Folifia. Cafwyd hyd i ddau ohonynt yng ngwledydd Prydain fodd bynnag: un yng Nghovent Garden, Llundain ar 17 Hydref 1935 ac un arall gan fachgen ysgol mewn cae ger Weymouth ar 23 Awst 1970. Mae'n debyg i'r ddau gael eu mewnforio'n ddiarwybod gyda ffrwythau a llysiau o America.[3]

Dyma'r glöyn mwyaf cyffredin yn y genws hwn. Mae eu cynefin ar uchder o rhwng 300-1700m uwchlaw lefel y môr.[4]

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r fantell oren resog yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler.

Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
  3. [1] Gwefan UK Butterflies; adalwyd 19 Hydref 2012
  4. [2] Gwefan Learn About Butterflies; adalwyd 19 Hydref 2012