Mangas Coloradas

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pennaeth Apache ac aelod o'r Chiricahua Dwyreiniol sy'n adnabyddus fel un o arweinwyr mawr ei bobl yn eu gwrsthafiad hir yn erbyn yr Unol Daleithiau oedd Mangas Coloradas neu Dasoda-hae (adnabyddid hefyd fel Crysau Cochion) (tua 1793 - 18 Ionawr, 1863). Roedd ei fam-fro yn ymestyn i'r gorllewin o'r Rio Grande i gynnwys rhan helaeth yr hyn sy'n dde-orllewin New Mexico heddiw.

Arweinydd rhyfel[golygu]

Yn y 1820au a'r 1830au, prif elyn yr Apache oedd y Mecsicanwyr, a oedd wedi ennill annibyniaeth oddi ar Sbaen yn 1821. Erbyn 1835 roedd llywodraeth Mexico yn cynnig gwobrau ariannol am sgalpau'r Apache: $100 am sgalp dyn, $50 am sgalp merch, a $25 am sgalp plentyn. Ar ôl i Juan José Compas, pennaeth yr Apache Mimbreno, gael ei ladd gan helwyr sgalpau gwyn yn 1837, daeth Mangas yn arweinydd rhyfel a dechreuodd gyfres o gyrchoedd mewn dial ar y Mecsicanwyr.

Yn 1846 aeth yr Unol Daleithiau i ryfel a Mecsico, a warantiodd Cenedl yr Apache saffgwndid i filwyr yr UD groesi ei thir. Ar ôl i'r UD feddiannu New Mexico yn 1846, arwyddodd Mangas Coloradas gytundeb heddwch gyda llywodraeth UDA. Ond ansefydlog oedd yr heddwch hwnnw; dechreuodd mewnfudwyr yn ceisio aur a thir aflonyddu ar yr Apache a bu ymladd rhyngddynt. Yn 1851, ger gwersyll cloddio Pinos Altos, ymosododd y mwyngloddwyr ar Mangas a'i sarhau. Dilynodd cyfres o ddigwyddiadau tebyg ac ymledodd yr ymladd. Yn Rhagfyr 1860 lawnsiodd 30 o fwyngloddwyr ymosodiad sydyn ar wersyllfa Apaches Bedonkohes ar lan Afon Mimbres, gan ladd pedwar a dal 13 o ferched a phlant. Yn fuan ar ôl hynny dechreuodd Mangas ymosod ar yr ymsefydlwyr Americanaidd.

Priododd merch Mangas Coloradas, Dos-Teh-Seh, Cochise, prif bennaeth yr apache Chokonen. Yn Chwefror 1861, daliodd yr Is-Gapten George N. Bascom Cochise, ei deulu a sawl rhyfelwr mewn magl trwy dwyll ym Mwlch Apache, Arizona. Llwyddodd Cochise i ddianc, yn ddramataidd iawn trwy dorri twll yn y babell a'i gyllell a rhedeg gan osgoi sawl bwled, ond daliwyd y lleil. Gelwir hyn y "Bascom Affair"; crogwyd brawd Cochise a phump o'r rhyfelwyr gan Bascom. Arweiniodd hynny at gynghrair rhwng Mangas a Cochise i yrru'r Americanwyr allan o wlad yr Apache. Ymunodd Juh a Geronimo â nhw. Er na llwyddodd yr Apache, lleihaodd poblogaeth gwyn Arizona a Mecsico Newydd yn sylweddol oherwydd yr ymladd a'r Rhyfel Cartref.

Marw Mangas[golygu]

Yn haf 1862 galwodd Mangas Coloradas am gadoediad a heddwch. Yn Ionawr 1863, penderfynodd fynd i gwrdd ag arweinywyr milwrol Americanaidd yn Fort McLane, de-orllewin New Mexico. Cyrhaeddodd Mangas dan faner wen cadoediad i siarad gyda'r Brigadier General Joseph Rodman West, a fyddai'n nes ymlaen yn seneddwr yn Louisiana. Ond roedd Mangas wedi cerdded i mewn i fagl. Fe'i cipiwyd gan filwyr arfog a'i ddal. Honnir fod West ei hun wedi'r gorchymyn i lofruddio Mangas:

"Men, that old murderer has got away from every soldier command and has left a trail of blood for 500 miles on the old stage line. I want him dead or alive tomorrow morning, do you understand? I want him dead."

Y noson honno, arteithiwyd Mangas wrth iddo gysgu a'i saethu a'i ladd "wrth geisio dianc" (tra'n gorwedd yn anafiedig ar y llawr). Roedd Mangas yn henwr tua 70 oed ac eisoes yn dioddef o glwyf saeth gwn.

Y diwrnod canlynol, torrodd milwyr Americanaidd ben Mangas, ei ferwi a gyrru'r benglog i Orson Squire Fowler, phrenolegydd yn Ninas Efrog Newydd. Bu llofruddio Mangas yn y ffordd dwyllodrus yma yn fodd i waethygu'r drwgdeimlad rhwng yr Apache a'r bobl gwyn yn Arizona a Mecsico Newydd a'r canlyniad fu rhyfel parhaol am 25 mlynedd.

Gweler hefyd[golygu]