Mamal

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Mamaliaid)
Neidio i: llywio, chwilio
Mamaliaid
Llewod (Panthera leo)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Is-ffylwm: Vertebrata
Dosbarth: Mammalia
Linnaeus, 1758
Urddau

Dosbarth o anifeiliaid asgwrn-cefn yw'r mamaliaid (hefyd: mamolion) ac maent yn anifeiliaid gwaed cynnes. Mae chwarennau tethol gan yr anifeiliaid hyn, er mwyn rhoi llaeth i'w rhai bach. Mae angen llawer o fwyd arnynt er mwyn cadw'n gynnes, mwy nag anifeiliaid gwaed oer. Mae gan y rhan fwyaf ohonynt flew neu ffwr ar eu cyrff i gadw'n gynnes, ond does dim ffwr gan famaliaid y môr, braster sydd yn eu cadw nhw'n gynnes. Mae'r hwyatbig a'r echidna yn dodwy wyau, mae mamaliaid eraill yn cael eu geni'n fyw.

Mae tua 4000 o wahanol fathau o famaliaid. Gelwir y rhai sydd yn bwyta anifeiliaid eraill yn gigysyddion, a'r rhai sydd yn bwyta planhigion yn llysysyddion.

Cymru[golygu]

Cynhanes[golygu]

Ym Mro Morgannwg y darganuwyd y dystiolaeth gynharaf o famaliaid yng Nghymru, i'r de o Pen-y-bont ar Ogwr mewn chwareli glo. Yma, yn 1947 y darganfuwyd olion Morganucodon watsoni, anifail bychan tebyg i'r llyg, a oedd yn byw yno tua 200,000 o flynyddoedd yn ôl. Ceir tystiolaeth o esgyrn, ffosiliau a chofnodion ysgrifenedig (o amser y Rhufeiniaid sy'n taflu golau ar famaliaid sydd wedi hen ddiflannu, rhai cyn hyned a 225,000 CP. Canfuwyd esgyrn llawer o famaliaid anghyffredin heddiw mewn ogofâu yng Ngogledd Cymru hefyd e.e. Ogof Bontnewydd, Cefnmeiriadog, Sir Ddinbych. Ymlith y mamaliaid yn Hen Oes y Cerrig y mae: y rhinoseros blewog, y mamoth, yr udfil, ceffyl, blaidda bual. Mewn cyfnodau cynhesach (cyn y rhewlifau), roedd yma hefyd y llew, y rhinoseos trwyngul a'r eliffant ysgithrsyth.

Erbyn Oes Newydd y Cerrig, dylanwadodd ffermio ar fywyd mamaliaid a daeth cŵn, geifr, moch a'r ceffyl yn anifeiliaid domestig. Geifr oedd y mwyaf niferus yng Nghymru - tan ddiwedd yr Oesoedd Canol. Er mwyn sicrhau tir pori, cliriwyd llawer o goedydd Cymru - a newidiodd hyn llawer ar yr amgylchedd e.e. o'r boncyffion y daeth y rhan fwyaf o fawnogydd Cymru. Roedd hyn yn dinistrio llawer o gynefinoedd adar a mamaliaid fel eirth, bleiddiaid a cheirw. Felly wrth i'r tir amaethyddol gynyddu, lleihaodd y tir gwyllt.

Llenyddiaeth a chelf[golygu]

Yn yr hwiangerdd Pais Dinogad o'r 7fed ganrif, crybwyllir nifer o famaiaid gan gynnwys y bele coed, y baedd gwyllt, y llwynog, y gath wyllt a'r iwrch. Ceir addurniadau o famaliaid yn aml iawn mewn hen lawysgrifau, er mwyn dod a fflach o liw i'r gwaith, a cheir cyfeiriadau at famaliaid yn britho'r Mabinogi ac oddi fewn i gyfreithiau Hywel Dda.[1] Ceir hefyd enwau lleoedd ac afonydd yn cynnwys cyfeiriad at famal arbennig.

Rhestr mamaliaid[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

Tiger head template.gif Eginyn erthygl sydd uchod am anifail. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am mamal
yn Wiciadur.
  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; Cyhoeddwyd 2008; tud 597