Malo

Oddi ar Wicipedia
Malo
Ganwyd27 Mawrth 520 Edit this on Wikidata
Llancarfan Edit this on Wikidata
Bu farw15 Tachwedd 621 Edit this on Wikidata
Archingeay Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Llydaw Llydaw
Baner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
Swyddesgob Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl15 Tachwedd Edit this on Wikidata

Sant sy'n un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw oedd Malo (27 Mawrth 520 - 15 Tachwedd 621; Llydaweg: Maloù, Lladin: Maclovius).

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod]

Nid oes llawer o wybodaeth ar gael amdano, ond credir iddo gael ei eni yn Llancarfan, Bro Morgannwg, tua diwedd y 6g, ac iddo gael ei addysg yn Llanilltud Fawr. Roedd e'n fab i Caradog ab Ynyr Gwent a Derwela ac yn gefnder i Samson. Dywedir iddo fynd gyda Sant Brendan o Iwerddon ar ei fordaith enwog. Daeth yn esgob yn Llancarfan, ac yn sgil y Pla Melyn fe aeth Malo â nifer o fynaich i Lydaw, a sefydlon nhw wladfa Gristnogol yno a ddatblygodd yn dref dros y canrifoedd. Rhoddodd y sant ei enw i'r ddinas honno, Sant-Maloù ("Saint-Malo" yn Ffrangeg; "St Malo" yn Saesneg). Dethir ei ŵyl ar 15 Chwefror. Dywedir mewn un ffynhonnell iddo farw yn 649.

Sant Malo a Sant Brendan ar eu mordaith; argraffwyd y llun yn yr Almaen yn 1460.

Yn yr iaith Ffrangeg, mae yna ansoddair Malouin(s) neu Malouine(s) ar gyfer unrhyw beth sy’n perthyn neu’n gysylltiedig â thref St Malo, a thrwy hynny daw'r enwau Ffrangeg a Sbaeneg ar Ynysoedd y Falklands: Iles malouines ac Islas Malvinas.

Buchedd[golygu | golygu cod]

Ysgrifennwyd ei fuchedd, Vita S. Maclovii (Buchedd Sant Malo) tua 870.[angen ffynhonnell]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]