Makthar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Dinas yng ngorllewin canolbarth Tiwnisia yw Makthar (Arabeg: مَكْثَر), hefyd Maktar neu Mactar, sy'n gorwedd 900 metr i fyny ar lwyfandir ar ymyl ogleddol mynyddoedd Dorsal Tiwnisia yn nhalaith Siliana. Poblogaeth: 12,942 (2004).[1]

Fe'i lleolir ar groesffordd y priffyrdd GP4 a GP12, 150 km i'r de-orllewin o Diwnis a 70 km i'r de-orllewin o El Kef. Gorwedd Siliana, prifddinas y dalaith o'r un enw, 35 km i'r gogledd ar y briffordd GP4.

Mae Makthar yn adnabyddus yn bennaf am safle archaeolegol dinas hynafol Mactaris. Bu'r ddinas honno ym meddiant Massinissa, brenin Numidia ac arosodd yn nwylo'r Nwmidiaid tan ddechrau'r 1fed ganrif OC pan gafodd ei gipio gan yr Ymerodraeth Rufeinig. Parhaodd y ddinas, er yn llai, trwy gyfnodau rheolaeth y Fandaliaid a'r Ymerodraeth Fysantaidd hyd yr 11eg ganrif. Ceir amgueddfa fechan ar y safle.

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]