Mair Fadlen

Oddi ar Wicipedia
Penitent Mary Magdalene gan Nicolas Régnier, Y Palas ar y Dŵr, Warsaw
Paentiad erotig o tua 1514 gan Titian: Noli me tangere (Na foed i neb fy nghyffwrdd)

Mae Mair Fadlen (Groeg: Greek Μαρία ἡ Μαγδαληνή) neu weithiau Mair Fagdalen yn ffigwr Cristnogol y sonir amdani yn y Beibl. Yn Luc (8:2), dywedir i Iesu Grist ei glanhau o saith ysbryd aflan.[1] Dywedir iddi ddod yn ffrind agos i'r Iesu a cheir cryn sôn amdani dros gyfnod y Pasg. Roedd yn bresennol yn ystod ei groeshoeliad, yn gefn iddo, ac ymwelodd (gyda Mair mam yr Iesu) â'i fedd ar Ddydd Sul y Pasg. Mae'r pedwar apostol (Mathew, Marc, Luc a Ioan) yn dweud mai hi welodd y bedd gwag yn gyntaf. Sonia rhai hefyd i angel ofyn iddi fynd â'r newyddion i'r disgyblion (Mathew 28:1).

Ond mewn fersiynau eraill o'r ysgrythyrau na chyrhaeddodd ffurf orffenedig y Beibl, mae'r disgrifiad ohoni'n llawer gwell. Maent yn ddieithriad bron yn ei gosod ar bedestal,[2] gydag un yn ei galw hi'n "hoff ddisgybl Crist" ac eraill fel person a oedd yn trafod dysgeidiaeth Crist gydag ef yn ddysgedig o heriol.

Yn Luc (7:36-50) fe'i cysylltir rhyw ferch o'r enw Mair gyda hwren, ond nid oes dim yn y testun sy'n tystio mai Mair Fadlen oedd hon; ond cadarnaodd Pab Grigor I y cysylltiad hwn tua 600 OC am resymau eglwysig. Cyfeirir ati 14 o weithiau yn y Testament Newydd, ond ni ddywedir unwaith mai hi oedd y butain.[3] Cafodd y thema hon ei datblygu yn The Last Temptation of Christ a gynhyrchwyd gan Martin Scorsese yn 1988. Yn Jesus Christ Superstar (Tim Rice) caiff ei phortreadu fel ysbryd rhydd, hipiaidd. Ceisia rhai roi iddi briodweddau yr hen Dduwiau ac yn The Da Vinci Code a The Holy Blood and the Holy Grail datblygir hen chwedl o'r canoloesoedd iddi ffoi i Ffrainc wedi i Grist gael ei groeshoelio.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Mathew 28:1
  • Mark 15:40
  1. Saint Mary Magdalene. (2011). Encyclopædia Britannica. Adalwyd o: http://www.britannica.com/EBchecked/topic/367559/Saint-Mary-Magdalene
  2. The Telegraph; 31 Mawrth, 2013; tudalen 27.
  3. Doyle, Ken. "Apostle to the apostles: The story of Mary Magdalene". Catholictimes, 11 Medi 2011 [1] Archifwyd 2012-04-16 yn y Peiriant Wayback. Accessed 13 Mawrth 2013

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]