Maine (Ffrainc)

Oddi ar Wicipedia
Baner Maine

Hen ranbarth yn Ffrainc, a chyn hynny sir (comté) oedd Maine. Y brifddinas oedd Le Mans.

Safai Maine i'r de o Ddugiaeth Normandi ac i'r gogledd o Anjou, a bu ymrafael rhwng y ddau am feddiant ohoni. Erbyn canol y 11g roedd ym meddiant llinach yr Angeviniaid, rheolwyr Anjou. Yn 1064, meddiannwyd y diriogaeth gan Ddug Normandi, Gwilym Goncwerwr.

Gwrthryfelodd trigolion Maine yn erbyn Gwilym yn 1069, a chyhoeddi eu hanibyniaeth oddi ar Normandi. Yn 1203, daeth y diriogaeth yn rhan o Ffrainc.

Lleoliad Maine