Mainc wthio

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Darluniad o fainc wthio

Ymarfer ar gyfer rhan uchaf y corff yw mainc wthio. Pan yn corfflunio defnyddir yr ymarfer hwn er mwyn cryfhau'r cyhyrau'r pectoral, deltoidau a'r cyhyryn triphen. Pan mae ar ei gefn neu ei chefn. mae'r person sy'n gwneud y mainc wthio yn gostwng pwysau i lefel eu brest, ac yna'n ei wthio yn ôl i fyny nes fod y breichiau'n syth ond heb gloi'r peneliniau. Mae'r ymarfer yn canolbwyntio ar ddatblygu'r prif gyhyr pectoralis yn ogystal â chyhyrau eraill gan gynnwys y deltoid blaen, seratws blaen, coracobrachialis, ysgwydd, y trapesiws, a'r cyhyryn triphen. Mae'r mainc wthio yn un o dri codiad gwahanol o fyd codi pŵer ac fe'i ddefnyddir tra'n hyfforddi gyda phwysau, corfflunio, a mathau eraill o hyfforddiant ffitrwydd er mwyn datblygu'r frest.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Mainc wthio o'r Saesneg "Bench press". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.

Cyfeiriadau[golygu]