Magnús Magnússon
Oddi ar Wicipedia
| Magnús Magnússon | |
|---|---|
| Delwedd:Delwedd rhydd.jpg |
|
| Ganwyd | 12 Hydref, 1929 Reykjavík, Gwlad yr Iâ |
| Bu farw | 7 Ionawr, 2007 Balmore, Swydd Dunbarton, Yr Alban |
| Yn enwog am | Mastermind |
| Galwedigaeth | Cyflwynydd teledu, newyddiadurwr |
Newyddiadurwr, hanesydd a chyflwynydd teledu oedd Magnús Magnússon (12 Hydref 1929 - 7 Ionawr 2007).
Cafodd ei eni yn Reykjavik, Gwlad yr Iâ, ond symudodd ei deulu i fyw yn yr Alban pan oedd Magnússon yn dal yn blentyn. Aeth i'r ysgol yng Nghaeredin. Graddiodd yn Saesneg o Goleg yr Iesu, Rhydychen, a gweithiodd fel newyddiadurwr ar y Scottish Daily Express ac wedyn fel is-olygydd ar The Scotsman. Gweithiai ym myd darlledu o 1967 ymlaen a daeth yn enwog fel cyflwynydd hir-dymor y gyfres gwis eiconaidd Mastermind. Roedd yn awdur nifer o lyfrau gan arbenigo ar hanes a llenyddiaeth y Llychlynwyr.
Teledu [golygu]
- Chronicle
- Mastermind (1972-1997)
- BC: The Archaeology of the Bible Lands
- Vikings!
- Birds for All Seasons
Llyfryddiaeth [golygu]
- The Vikings