Magadan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd Magadan (gwahaniaethu).
Baner dinas Magadan.
Magadan yn y gaeaf, o fryn gerllaw.

Porthladd sy'n ganolfan weinyddol Oblast Magadan, Rwsia yw Magadan (Rwseg: Магадан). Poblogaeth: 95,982 (Cyfrifiad 2010).

Lleolir Magadan yn ardal Dwyrain Pell Rwsia ar lan Môr Okhotsk ym Mae Nagayevo i'r de o ardal is-Arctaidd Kolyma. Mae'n ddinas anghysbell iawn. Y ddinas agosaf yw Yakutsk, 2,000 cilometer (1,200 milltir) i ffwrdd ar ffordd wael, ac felly mae Magadan yn dibynnu ar ei maes awyr a'r porthladd am ei chysylltiadau efo gweddill Rwsia.

Sefydlwyd Magadan yn 1929. Adeiladu llongau a physgota yw'r prif ddiwydiannau.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.