Maffia Mr Huws

Oddi ar Wicipedia
Maffia Mr Huws
Deiniol Morus a Hefin Huws. Maffia Mr Huws a'r Cyrff; Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth; 1985.
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Yn cynnwysHefin Huws Edit this on Wikidata

Band o Fethesda oedd Maffia Mr Huws - un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru yr 1980au[1]. Mae'r band yn dal gigio'n achlysurol ac yn cynnwys yr aelodau: Deiniol Morus, Hefin Huws, Sion a Gwyn Jones. Ffurfiwyd y grŵp yng ngŵyl Pesda Roc ym Methesda yn ystod y 1980au.[2] Yn 2006, ail-ffurfiodd y band ar gyfer adfywiad o ŵyl Pesda Roc.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ym Methesda ar ddiwedd y 70au daeth y brodyr Sion a Gwyn Jones at ei gilydd gyda Deiniol Morris a Guto Orwig i ffurfio grŵp ysgol o'r enw Weiran Bigog. Chwaraeodd Weiran Bigog yn lleol am gyfnod tra roeddynt yn dysgu eu crefft, diolch i Arwel Jones Disco'r Llais a drefnai lawer o gigs ar y pryd. Pync a roc oedd y caneuon a daeth gig mwya'r band yn un o wyliau Roc eiconic Cymru sef Padarn Roc, a gynhaliwyd yn Llanberis ar ddiwedd y 1970au. Roedd Sion yn canu a chwarae gitar rithm ond nid oedd yn hapus fel canwr felly fe ofynnodd i'w ffrind Hefin Huws i ganu ac ym 1981 ymunodd Hefin Huws yn lle Guto Orwig, newidiwyd yr enw, a ganwyd Maffia Mr Huws. Daeth yr enw o graffiti 'Abercaseg Maffia' a welwyd ar un o waliau ym Methesda. Ychwanegwyd yr 'Huws' ar ôl cyfenw Hefin ac athro Cymraeg Ysgol Dyffryn Ogwen, J Elwyn Huws.

Bu'r band yn gweithio'n galed o gwmpas pentrefi ardal Arfon dan arweiniad Dafydd Meurig, ffrind ysgol a fu'n drefnydd cynnar y Maffia. ac yna ym 1982 fe recordiodd Maffia y caneuon 'Ffrindiau', Reggae Racs a Byth Eto ar gyfer sesiwn radio rhaglen poblogaidd iawn Richard Rees sef Sosban. Rhyddhawyd 'Ffrindiau' ar record hir Sesiwn Sosban (Sosban oedd rhaglen roc Radio Cymru ar y pryd, yn darlledu bob bore Sadwrn). Fe ddaeth hi'n amlwg bod dyfodol mawr i'r band a chyn hir dyma nhw'n cyhoeddi eu record sengl gyntaf, Gitar yn y To, hefyd ym 1982. Recoriwyd hon gyda'r un cynhyrchydd a recordiodd y sesiwn Sosban, sef Richard Moz Morris o Gwmtwrth Uchaf. Chwaraeodd Richard rhan bwysig yn swn y Maffia ar record.

Roedd y band yn byw gyda'i gilydd mewn bwthyn ym Methesda o'r enw 'Y Bwthyn' lle roeddynt yn rhydd i chwarae eu hofferynnau ddydd a nos ac o ganlyniad yn ymarfer eu techneg yn ddibaid. Daeth y Bwthyn yn enwog drwy Gymru yn nes ymlaen (pan werthywd y tŷ fe gafodd y perchnogion newydd amryw o ymweliadau gan bobl o bob cwr o Gymru, gan gynnwys chapter o Hells Angels!) Erbyn hanner cyntaf yr wythdegau roedd Maffia'n chwarae dros 100 o gigs y flwyddyn - a hynny'n amal mewn llefydd na welwyd bandiau Cymraeg eu hiaith erioed o'r blaen - fel Cymoedd De Cymru. Roedd ymestyn ffiniau'r iaith drwy Gymru'n bwysig i'r hogiau. Roeddynt yn awyddus i fod yn fand Cymraeg heb ffiniau daearyddol. Roedd gan y band ddilyniant anhygoel gyda'r "Maffia Maniacs". Chwaraewyd eu sengl Newyddion Heddiw/Nid Diwedd y Gân ar Radio 1 yn ystod yr oriau brig am gyfnod.[angen ffynhonnell]

Fe fu'r band yn fuddugol ddwywaith yn Noson Gwobrwyo Cylchgrawn Sgrech wrth ennill y wobr am y record orau, a'r anrhydedd o ennill tlws prif grwp roc Cymru ym 1983. Nhw aeth â'r wobr am brif grwp roc y flwyddyn eto ym 1984.

Yng nghanol yr wythdegau fe ymunodd Alan Edwards (bachgen o Gaernarfon a oedd yn byw ym Methesda) â'r band i chwarae'r allweddellau, ond yn anffodus, ym 1987, fe laddwyd Alan mewn damwain pan ddaru fan y band troi drosodd yn ystod un o deithiau'r Maffia yn Kemperle, Llydaw. Ym 1986 bu'r band yn teithio gyda Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr ar "Taith y Carcharorion". Roedd y daith yn un o uchafbwyntiau'r byd roc y flwyddyn honno gan gadarnhau perthynas agos iawn rhwng y ddau fand. Rhyddhawyd caset i gydfynd â'r daith gyda dwy o ganeuon Maffia, dwy o ganeuon Jarman ac un trac ar y cyd rhwng y ddau fand.

Wedi i Hefin Huws benderfynu mynd i fyw i Lundain fe gariodd Maffia i fynd gyda Neil Williams yn canu, ac yn achlysurol fe fyddai'r gitarydd John Doyle, y canwr poblogaidd Martin Beattie, drymiwr o Fethesda o'r enw Kevin ('Robo'/Taff) Roberts a Les Morrison yn dod i'r adwy. Mae Dafydd Rhys, gynt o'r band pync a reggae Chwarter i Un (ac yn frawd i Gruff Rhys Super Furry Animals) hefyd yn haeddu clod am drefnu ac ysgogi hogiau Maffia mwy neu lai drwy gydol eu gyrfa hyd at y presennol. Mae Dafydd hefyd wedi cyfrannu i'r band ar y trwmped a gitar. Chwaraeodd y band yng Ngŵyl y Faenol yn 2000 ac eto yn 2008.

Mae Maffia wedi cyhoeddi naw record a chasét, a CD o oreuon Maffia yn 2008. Mae rhai'n credu y daw'r hogiau'n nôl at ei gilydd unwaith eto.

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Senglau/EP[golygu | golygu cod]

Teitl Fformat Label Rhif Catalog Dyddiad ryddhau
"Gitar Yn Y To / Reggae Racs" Sengl 7" Fflach RFRS0013 1982
Hysbysebion EP 12" Pesda Roc PR001 1983
"Nid Diwedd Y Gan / Newyddion Heddiw" Sengl 7" Recordiau Sain SAIN 115S 1985
Taith y Carcharorion (Ar y cyd gyda Geraint Jarman) EP Casét Recordiau Sain SAIN C963B 1986

Albymau[golygu | golygu cod]

Teitl Fformat Label Rhif Catalog Dyddiad ryddhau
Yr Ochor Arall Albwm 12" Recordiau Sain SAIN 1286M 1983
Da Ni'm Yn Rhan O'th Gêm Fach Di Albwm 12" Recordiau Sain SAIN 1307A 1984
Awé 'fo'r Micsar Albwm Casét S4C Dim 1987
Twthpêst Ozone Ffrendli Albwm Casét Stiwdio Les Dim 1989
Croniclau'r Bwthyn (Goreuon Maffia Mr Huws) Albwm CD Recordiau Sain SAIN SCD 2553 2008

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "bandit247.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-03. Cyrchwyd 2010-10-14.
  2. Maffia Mr Huws yn ail ffurfio. BBC Arlein. 19-07-2006. Adalwyd ar 15-10-2010
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato