Maes Awyr Rhyngwladol Yasser Arafat
| Maes Awyr Rhyngwladol Yasser Arafat مطار ياسر عرفات الدولي |
|||
|---|---|---|---|
| IATA: GZA – ICAO: LVGZ | |||
| Crynodeb | |||
| Perchennog | Awdurdod Cenedlaethol Palesteina | ||
| Rheolwr | Maes Awyr Rhyngwladol Yasser Arafat | ||
| Gwasanaethu | Llain Gaza | ||
| Lleoliad | ger Rafah | ||
Unig faes awyr Llain Gaza yw Maes Awyr Rhyngwladol Yasser Arafat (Arabeg: مطار ياسر عرفات الدولي; Matar Yasir 'Arafat ad-Dowaly) (IATA: GZA, ICAO: LVGZ). Ei enw gwreiddiol oedd Maes Awyr Rhyngwladol Gaza a newidwyd wedyn i Faes Awyr Rhyngwladol Dahaniya, ond fe'i ailenwyd ar ôl Yasser Arafat er cof am gyn arweinydd y PLO. Fe'i lleolir yn Rafah yn ne Llain Gaza, yn agos i'r ffin â'r Aifft.
Mae'n perthyn i Awdurdod Cenedlaethol Palesteina ac yn cael ei redeg ganddynt, ac roedd hefyd yn gwasanaethu fel cartref i Palestinian Airlines. Roedd yn medru ymdopi â 700,000 o deithwyr y flwyddyn ac yn rhedeg 24 awr y dydd am 364 diwrnod y flwyddyn (gan gau ar Yom Kippur). Agorwyd y maes awyr yn 1998, ond bu rhaid iddo gau yn 2001 ar ôl cael ei fomio'n drwm gan luoedd arfog Israel.