Maes Awyr Heathrow
Oddi ar Wicipedia
| Maes Awyr Heathrow Llundain London Heathrow Airport |
|||
|---|---|---|---|
| IATA: LHR – ICAO: EGLL | |||
| Crynodeb | |||
| Perchennog | BAA Limited | ||
| Rheolwr | Heathrow Airport Limited | ||
| Gwasanaethu | Llundain | ||
| Lleoliad | Hillingdon, Llundain | ||
| Uchder | 83 tr / 25 m | ||
| Gwefan | |||
| Lleiniau glanio | |||
| Cyfeiriad | Hyd | Arwyneb | |
| tr | m | ||
| 09L/27R | 12,799 | 3,901 | Asffalt rhigol |
| 09R/27L | 12,008 | 3,660 | Asffalt rhigol |
Maes awyr mawr a leolir 14 milltir i'r gorllewin o ganol Llundain ydy Heathrow, talfyriad LHR. Maes awyr prysuraf y byd yn nhermau traffig rhyngwladol teithwyr ydy o, ac yn nhermau traffig cyfan teithwyr mae o'n ail brysuraf y byd a phrysuraf Ewrop. Mae BAA yn berchen ar Heathrow ac yn ei weithredu. Mae pum terfynfa ganddo; agorwyd y dair terfynfa gyntaf yn y 1950au a 1960au, y bedwerydd ym 1986 a'r bumed yn 2008. Mae'r gwasanaethau cludiant eraill sy'n cysylltu â fo yn cynnwys Rheilffordd Danddaearol Llundain a'r gwasanaeth rheilffordd cyflym Heathrow Express i orsaf Paddington yn Llundain.