Madeleine McCann

Oddi ar Wicipedia
Madeleine McCann
Portiwgal mewn coch, gyda Chefnfor yr Iwerydd i'r dwyrain, Sbaen i'r dwyrain a Morocco i'r de.
Canol a de Portiwgal, gan ddangos Praia da Luz a Portimão, pencadlys gweinyddol yr heddlu (yr Polícia Judiciária), yn y de

Merch o Loegr oedd Madeleine Beth McCann (ganwyd 12 Mai 2003, Caerlŷr) a ddiflannodd o'i hystafell wely mewn llety yn Praia da Luz, yn ardal yr Algarve, Portiwgal ar y 3 Mai 2007. Diflannodd tra bod ei rhieni'n bwyta'u swper mewn bwyty 60-90 llath i ffwrdd. Er gwaethaf llawer o sylw yn y cyfryngau at ei hachos - mwy nag erioed mewn hanes - ni ddaethpwyd o hyd iddi.[1][2]

Roedd y teulu wedi cyrraedd Portiwgal gyda gyda chriw o ffrindiau a'u plant hwythau. Gadawyd Madeleine a'r efeilliaid (ei chwiorydd) yn cysgu am 20:30 ar lawr isaf un o fflatiau'r gwesty ac ymunodd y McCanns gyda'u cyfeillion mewn bwyty 55 metr (180 tr) i ffwrdd.[3] Dychwelodd y rhieni i gadw llygad ar eu plant sawl tro yn ystod y noson honno. Ond am 22:00, pan aeth mam Madeiline yno i sicrhau fod ei phlant yn saff, gwelodd nad oedd Madeiline yn ei hystafell.

Dros yr wythnosau dilynol, cam-ddadansoddwyd archwiliad o dadelfeniad-DNA Madeiline (a wnaed yng ngwledydd Prydain) gan heddlu Portiwgal a chyhuddwyd y McCanns o guddio'i chorff yn dilyn damwain honedig yn y fflat.[4][5] Rhoddwyd statws arguido i'r McCanns, ym Medi 2007, sef statws yn dynodi eu bod 'dan amheuaeth' o lofruddiaeth. Codwyd y statws hwnnw yng Ngorffennaf 2008 oherwydd diffyg tystiolaeth yn erbyn y rhieni.[6][7]

Trodd y McCanns at dditectifs preifat am gyfnod, hyd nes y dechreuodd Scotland Yard ymchwilio i'r diflaniad, Operation Grange yn 2011. Nododd y ditectif a oedd yn gyfrifol am yr ymchwiliad ei fod yn trin y digwyddiad fel "trosedd gan ddieithryn", cynllwyn i herwgipio neu ladrad a aeth yn rhy bell.[8] Yn 2013 cyhoeddodd Scotland Yard ddelweddau o ddynion y dymunent eu holi, gan gynnwys un a welwyd yn cario plentyn i gyfeiriad y traeth ar y noson honno.[9] Yn dilyn hyn, ail-agorodd heddlu Portiwgal eu hymchwiliad nhw.[10] Cwtogwyd ar Operation Grange yn 2015 ac yn Ebrill 2017 nodwyd fod sawl ymholiad arwyddocaol ar y gweill.[11]

Teulu[golygu | golygu cod]

Ganed Madaline yn ferch i Kate a Gerry McCann, dau feddyg-teulu Pabyddol. Ganed Kate Marie McCann, née Healy yn 1968 yn Huyton, ger Lerpwl, gan fynychu All Saints School yn Anfield, ac yna Notre Dame High School yn Everton Valley, gan raddio yn 1992 mewn meddygaeth o Brifysgol Dundee.[12] Ganed Gerald Patrick McCann yn 1968 yn Glasgow) gan fynychu Ysgol Eilradd Holyrood R.C. cyn graddio ym Mhrifysgol Glasgow gan dderbyn BSc mewn gwyddoniaeth chwaraeon a ffisioleg yn 1989. Dair mlynedd yn ddiweddarach graddiodd mewn meddygaeth ac yn 2002 derbyniodd ei MD, hefyd yn Glasgow. Ers 2005 bu'n feddyg ymgynghorol gan arbenigo yn y galon yn Ysbytu Glenfield yng Nghaerlŷr.[13] Cyfarfu'r ddau yn 1993 yn Glasgow gan briodi yn 1998. Ganed Madeiline yn 2003 a chawsant efeilliaid (bachgen a merch) yn Chwefror 2005.[14]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Master of media circus for Madeleine McCann", The Daily Telegraph, 24 April 2008.
  2. Gordon Rayner, "Madeleine McCann latest: are police any closer to knowing the truth?", The Daily Telegraph, 26 Ebrill 2016.
  3. For "50 metres (yards)", "Kidnapping concern for missing girl in Portugal" Archifwyd 2014-10-06 yn y Peiriant Wayback., Reuters, 4 Mai 2007. For 60 yards as the crow flies, and a 90-yard walk, "less than a minute's walk away", Summers & Swan 2014, 12. Ninety yards would take a minute to walk at a speed of around three miles per hour.
  4. Esther Addley (The Guardian, 27 Ebrill 2012): "It was, the [Portuguese] attorney general found, largely due to a catastrophic misinterpretation of the evidence collected by these officers [Leicestershire police] that the Portuguese team came to suspect the McCanns in the disappearance. ... Last month, Matt Baggott, at the time chief constable of Leicestershire, admitted to the Leveson inquiry that he had known the Portuguese officers, then heavily briefing reporters that the McCanns were guilty, were wrong on crucial DNA evidence. He could have corrected reporters' errors, even behind the scenes, he admitted, but had judged it better not to."
  5. Esther Addley, "Madeleine McCann: hope and persistence rewarded", The Guardian, 27 Ebrill 2012
  6. Fiona Govan, Nick Britten, "Madeleine McCann: Kate and Gerry cleared of 'arguido' status by Portuguese police", The Daily Telegraph, 21 Gorffennaf 2008.
  7. "Madeleine McCann’s parents have not been ruled innocent, judge says", The Daily Telegraph, 9 Chwefror 2017.
  8. Sandra Laville, "Madeleine McCann case should be reopened, says Met", The Guardian, 25 Ebrill 2012.
  9. Sandra Laville, "British detectives release efits of Madeleine McCann suspect", The Guardian, 14 Hydref 2013.
  10. "Madeleine McCann case: Portuguese police reopen inquiry", BBC News, 24 Hydref 2013.
  11. Martin Evans, "Madeleine McCann: Police pursuing 'critical' lead that 'may provide the answer'", The Daily Telegraph, 26 Ebrill 2017.
  12. McCann 2011, 7–10, 18–19.
  13. "Dr Gerry McCann" Archifwyd 2013-09-28 yn y Peiriant Wayback., University of Leicester. Also see Spence 2007, 1168.
  14. McCann 2011, 17, 26, 37.