Madagascar (ffilm 2005)
![]() Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Eric Darnell Tom McGrath |
| Cynhyrchydd | Mireille Soria |
| Ysgrifennwr | Mark Burton Billy Frolick Eric Darnell Tom McGrath |
| Cerddoriaeth | Hans Zimmer |
| Golygydd | Clare De Chenu Mark A. Hester H. Lee Peterson |
| Cwmni Cynhyrchu | DreamWorks |
| Dyddiad rhyddhau | 27 Mai, 2005 (Unol Daleithiau) |
| Amser rhedeg | 86 munud |
| Gwlad | Unol Daleithiau |
| Iaith | Saesneg |
Ffilm animeiddiedig a gynhyrchwyd gan DreamWorks Animation yw Madagascar. Rhyddhawyd y ffilm ar y 27 Mai, 2005. Adrodda'r ffilm hanes pedwar o anifeiliaid Sŵ Central Park sydd wedi treulio'u bywyd yn ddigon hapus yn sŵ. Fodd bynnag, cânt eu danfon yn ôl yn annisgwyl i Affrica. Maent yn cael eu llongddryllio ar ynys Madagascar ar y ffordd. Clywir lleisiau'r actorion Ben Stiller, Jada Pinkett Smith, Chris Rock, a David Schwimmer yn y ffilm. Mae'r lleisiau eraill yn cynnwys Andy Richter, Sacha Baron Cohen. Rhyddhawyd Madagascar ar DVD ar 15 Tachwedd, 2005, ynghyd a'r ffilm fer "The Madagascar Penguins in a Christmas Caper". Rhyddhawyd fersiwn Blu-ray ar 23 Medi, 2008. Rhyddhawyd dilyniant i'r ffilm, Madagascar: Escape 2 Africa, ar 7 Tachwedd, 2008. Bwriedir rhyddhau trydedd ffilm yn haf 2012.
