Môr Tirrenia
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Môr Tyrrhenaidd)
Môr sy'n rhan o'r Môr Canoldir yw Môr Tirrenia, y Môr Tyrhenaidd, Môr Tirreno[1] neu Môr Tyren[2] (Eidaleg: mar Tirreno).
Saif y môr rhwng rhan de-orllewinol tir mawr yr Eidal ac ynysoedd Corsica, Sardinia a Sicilia. Y rhanbarthau o'r Eidal ay y tir mawr sy'n ffinio ar y môr yma yw Calabria, Basilicata, Campania, Lazio a Toscana. Mae'n cysylltu a Môr Ionia trwy Gulfor Messina.