Môr-hwyaden Ddu
Oddi ar Wicipedia
| Môr-hwyaden Ddu | ||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ceiliog
|
||||||||||||||||||
| Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||
| Enw deuenwol | ||||||||||||||||||
| Melanitta nigra (Linnaeus, 1758) |
Hwyaden sy'n byw o gwmpas yr arfordir yw'r Fôr-hwyaden Ddu. Mae'n nythu yng ngogledd Ewrop ac Asia, yn ymestyn i'r dwyrain hyd at Afon Olenyok. Mae'n hwyaden fawr, 43-54 cm o hyd. Dim ond y ceiliog sy'n ddu, tra mae'r iâr yn frown.
Yn y gaeaf, mae'n symud tua'r de, gyda rhai yn cyrraedd cyn belled a Morocco. Nid yw'n nythu yng Nghymru, ond gellir gweld niferoedd sylweddol ger yr arfordir yn y gaeaf, yn enwedig ym Mae Caerfyrddin.