Môl (uned)
Oddi ar Wicipedia
Mae môl (Saesneg: Mole) yn un o'r saith prif uned rhyngwladol o fesur swmp y deunydd a ddefnyddir mewn arbrawf. Fe'i cyfieithwyd yn 1897 o'r gair Almaeneg "Molekulärgewicht" sy'n tarddu o'r gair "moleciwl". Y cemegydd Wilhelm Ostwald a fathodd y term yn gyntaf yn yr Almaeneg, ond roedd y syniad o uned safonol i fesur hyn-a-hyn o ddeunydd wedi cael ei ddefnyddio am o leiaf canrif cyn hynny.[1] Mae un môl o unrhyw un sylwedd yn cynnwys yr un nifer (rhif Avogadro) o foleciwlau felly mae'r môl yn uned ddefnyddiol wrth wneud mesuriadau cemegol cymhleth.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Ostwald, Wilhelm (1893). Leipzig.