Métlaoui
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn ne-orllewin canolbarth Tunisia yw Métlaoui (Arabeg: المتلوي) sy'n gorwedd rhwng dinasoedd Gafsa a Tozeur yn nhalaith Gafsa. Mae'n ganolfan mwyngloddio ffosffad gyda phoblogaeth o 37,099 (2004).[1]
Darganfuwyd ffosffad yn ardal Djebel Selja ar ddiwedd y 19eg ganrif. Cludir y ffosffad o Métlaoui i ddinas Sfax, 250 km i'r dwyrain ar lan y Môr Canoldir, i'w brosesu a'i allforio.
Ceir amgueddfa hanes naturiol yn y ddinas sy'n cynnwys ffosilau lleol. Mae'r Lézard rouge, cyn drên gwaith mwyn sydd heddiw'n atyniad twristaidd, yn cychwyn o'r ddinas trwy geunentydd Selja.