Médenine (talaith)
Oddi ar Wicipedia
Talaith yn ne-ddwyrain Tunisia yw talaith Médenine. Mae'n gorwedd ar lan Môr y Canoldir gan ffinio ar daleithiau Tataouine a Gabès yn Tunisia ei hun a Libya i'r dwyrain. Ei phrifddinas yw Medenine, yng ngogledd-orllewin y dalaith.
Ceir tir gweddol ffrwythlon ar hyd yr arfordir, sy'n cynnwys ynys enwog Djerba, un o brif ganolfannau twristiaeth Tunisia. Ond i ffwrdd o Djerba, ar y tir mawr, mae'r wlad yn cael ei dominyddu gan fryniau isel lled anial sy'n ymestyn i'r de i gyfeiriad y Grand Erg Oriental, anialwch mawr tywodlyd sy'n rhan o'r Sahara.
Mae'r prif ddinasoedd a threfi yn cynnwys Medenine, Zarzis, Ben Guerdane a Jorf. Lleolir dinas Rufeinig Gigthis ar yr arfordir cyferbyn â Djerba.
Dinasoedd a threfi [golygu]
- Ajim (un o ynysoedd Djerba)
- Ben Gardane
- Beni Khedache
- Houmt Souk (ynys Djerba)
- Médenine (prifddinas)
- Midoun (ynys Djerba)
- Zarzis
| Taleithiau Tunisia | |
|---|---|
| Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tunis | Zaghouan | |