Luo (pobl)
Oddi ar Wicipedia
Grŵp ethnig neu ieithyddol yn nwyrain Affrica yw'r Luo neu Lwo. Maent yn byw mewn tiriogaeth sy'n ymestyn o dde Swdan ac Ethiopia hyd ogledd Uganda a dwyrain Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo a gorllewin Kenya. Maent yn siarad iaith Nilotig, is-deulu o'r ieithoedd Nilo-Saharaidd.
Credir eu bod yn deillio yn wreiddiol o dde Swdan. Geilw y Luo sy'n byw yn Kenya eu hunain yn Joluo. Yn 1994, roedd eu poblogaeth yn 3,185,000, y trydydd fwyaf o grwpiau ethnig Kenya. Roedd tad Barack Obama yn aelod o'r adran yma o'r Luo.
Is-grwpiau Luo [golygu]
- Shilluk (Swdan)
- Pari (Swdan)
- Thur (Swdan)
- Alur (Uganda a GDC)
- Acholi (Swdan ac Uganda)
- Lango (Uganda)
- Kumam (Uganda)
- Jopadhola (Uganda)
- JoLuo (Kenya a Tanzania)
- Jo-Luo (Swdan)
- Anuak (Ethiopia, Swdan)
- Maban (Swdan)
- Funj (Swdan)
- Jumjum (Sudan)
- Blanda Boore (Swdan)
- Jonam (Uganda)
- (Shat) Swdan
Pobl enwog o dras Luo [golygu]
- Barack Obama, Arlywydd yr Unol Daleithiau
- Milton Obote,cyn-brif weinidog ac Arlywydd Uganda
- Tom Mboya - Gwleidydd o Kenya