Luke Charteris
Chwaraewr Rygbi'r Undeb rhyngwladol Cymreig ydy Luke Charteris (ganed 9 Mawrth 1983). Mae chwarae yn yn yr ail reng dros glwb Dreigiau Casnewydd Gwent.
Yn 2008, cafodd Charteris ei alw i fyny'n hwyr ar gyfer taith De Affrica gan y hyfforddwr Warren Gatland, er mwyn cymryd lle Bradley Davies, clo'r Gleision, a oedd wedi anafu. Roedd Charteris ar wyliau yn San Francisco ar y pryd a bu'n raid iddo hedfan yn syth i Dde Affrica.
Ar sail ei berfformiadau dros y Dreigiau yng Nghyngrhair Magners, dewiswyd Charteris ar gyfer tim Cymru yn y gyfres o emau rhyngwladol ym mis Hydref 2008. Yn y gyfres hon, chwaraeodd yn erbyn Canada, roedd ar y fainc yn erbyn Crysau Duon Seland Newydd ac yn y fuddugoliaeth drost Awstralia.
Arwyddodd Charteris gytundeb tymor hir newydd gyda'r Dreigiau ar 11 Rhagfyr 2008, a fydd ei gadw yn Rodney Parade hyd 2012.
Mynychodd Charteris Ysgol Gyfun Tre-Gib.
Ffynonellau [golygu]
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Proffil clwb Casnewydd
- (Saesneg) Proffil tîm Cymru