Luis Jorge Fontana

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Luis Jorge Fontana

Swyddog milwrol, fforiwr ac awdur o'r Ariannin oedd Luis Jorge Fontana (19 Ebrill 1846 - 18 Hydref 1920). Ef oedd llywodraethwr cyntaf talaith Chubut a sylfaenydd dinas Formosa.

Ganed Fontana yn Buenos Aires, mab Luis María Fontana, swyddog mewn llywodraeth Juan Manuel de Rosas, a Doña Irene Burgeois, a symudodd ei deulu i Carmen de Patagones pan oedd yn ieuanc, Yn dair ar ddeg oedd aeth yn bentis yn y fyddin yn nhalaith Río Negro. Ymladdodd yn y rhyfel a Paraguay, cyn dychwelyd i Buenos Aires i astudio. Dychwelodd i'r fyddin, a chymerodd ran yn y gwaith o fforio'r Chaco, gan sefydlu dinas Formosa yn 1879.

Yn 1884 pendodwyd ef yn llywodraethwr cyntaf tiriogaeth newydd Chubut. Yn 1885 arweiniodd daith cwmni a elwid y Rifleros del Chubut, oedd yn cynnwys nifer o Gymry o'r Wladfa, i fforio rhan uchaf Dyffryn Camwy i gyfeiriad yr Andes. Ar y daith yma y cafwyd hyd i'r diriogaeth a alwyd yn valle 16 de Octubre, neu Cwm Hyfryd i'r Cymry. Roedd yn amlwg yn ardal ffrwythlon, a threfnwyd i wladychwyr Cymreig symud yno o ran isaf Dyffryn Camwy, gan sefydlu tref Trevelin.

Cyhoeddiadau[golygu]

  • Gran Chaco
  • 1883: Viaje de exploración al río Pilcomayo
  • 1886: Estudio sobre el caballo fósil
  • 1908: Los cuadrúpedos y las aves de la región andina
  • 1912: Ad ovo