Lucius Tiberius

Oddi ar Wicipedia

Ymerawdwr Rhufeinig dychmygol sy'n ymddangos gyntaf yng ngwaith Sieffre o Fynwy yw Lucius Tiberius, weithiau Lucius Hiberius. Yn Historia Regum Britanniae Sieffre, ymddengys fel gelyn y brenin Arthur. Ni fu erioed ymerawdwr yn Rhufain yn dwyn yr enw yma.

Mae Lucius yn gyrru cenhadon at Arthur yn mynnu fod Arthur yn talu gwrogaeth iddo. Pan wrthyd Arthur, mae Lucius yn ymosod ar diroedd cyngheiriaid Arthur ar y cyfandir. Daw Arthur a byddin yn ei erbyn a'i orchfygu, gan ychwanegu yr Eidal at ei deyrnas. Tra mae Arthur oddicartref yn ymgyrchu yn erbyn Lucius, mae Medrawd yn cipio gorsedd Prydain a'r frenhines Gwenhwyfar. Dychwela Arthur a lladd Medrawd ym mrwydr Camlan, ond fe'i clwyfir yn angeuol ei hun ac mae'n cael ei gludo i Ynys Afallach.

Ymddengys Lucius eto mewn nifer o chwedlau Arthuraidd Ffrengig a Seisnig, er enghraifft Le Morte d'Arthur gan Thomas Malory.