Louis yr Almaenwr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sêl Louis yr Almaenwr

Roedd Louis yr Almaenwr (80628 Medi 876) yn fab i Louis Dduwiol, ymerawdwr Ymerodraeth y Ffranciaid, a'i wraig Ermengarde o Haspengouw. Fel Louis II roedd yn frenin Ffrancia Ddwyreiniol (yr Almaen yn ddiweddarach), ac yn nes ymlaen yn frenin Lotharingen fel Louis I.

Bu farw Louis Dduwiol yn 840 a cheisiodd ei fab hynaf Lothair ddod yn ymeradwr dros deyrnas ei dad. Yr oedd dau arall o feibion Louis yn fyw, Louis yr Almaenwr a Siarl Foel, a gwnaethant gynghrair i wrthwynebu Lothair, gan ei orchfygu ym mrwydr Fontenoy-en-Puisaye yn 841. Yn 843, cytunodd y tri brawd ar Gytundeb Verdun, oedd yn rhannu'r ymerodraeth, gyda Siarl Foel yn derbyn Ffrancia Orllewinol (a ddaeth yn deyrnas Ffrainc yn ddiweddarach), Lothair I, oedd yn cael y teitl o ymerawdwr, yn derbyn Ffrancia Ganol (a enwyd yn Lotharingia) a Louis yr Almaenwr yn derbyn Ffrancia Ddwyreiniol.

Priododd yn 827 ag Emma, a chawsant nifer o blant: