Louis I, Dug Anjou

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arbais y Valois cyn 1382

Roedd Louis I, Dug Anjou (23 Gorffennaf 1339 - 20 Medi 1384) yn ail fab i Jean II, brenin Ffrainc ac yn frawd i Siarl V, brenin Ffrainc.

Ganed ef yn Vincennes, a gwnaed ef yn Ddug Anjou yn 1360. Ymladdodd ym Mrwydr Poitiers yn 1356, mewn cwmni dan arweiniad ei frawd, Siarl, ond bu raid iddynt ffoi heb fedru ymladd fawr. Cymerwyd ei dad, Jean II, yn garcharor. Roedd Louis yn un o'r gwystlon a roddwyd i'r Saeson i sicrhau rhyddid Jean II tra roedd trafodaethau cytundeb rhwng Lloegr a Ffrainc yn mynd ymlaen, ond dihangodd Louis yn ôl i Ffrainc oherwydd ei fod yn awyddus i fod gyda'i wraig ieuanc, Marie de Châtillon. Teimlai Jean fod hyn yn dangos diffyg sifalri, a dychwelodd Jean ei hun yn wirfoddol i fod yn garcharor yn Llundain.

Roedd Louis yn ffigwr amlwg yn y Rhyfel Can Mlynedd wedi i'r ymladd ail-ddechrau yn 1369 dan ei frawd, Siarl V. Bu ganddo ran amlwg yn cynorthwyo Ffrainc i ennill tiriogaethau oddi ar y Saeson, a bu Owain Lawgoch a'i gwmni yn ymladd oddi tano sawl gwaith. Wedi marwolaeth Siarl V, bu'n rheoli Ffrainc dros ei nai ieuanc, Siarl V.

Wedi i Jeanne I, brenhines teyrnas Napoli ei fabwysiadu fel olynydd, cyhoeddodd ei hun yn Frenin Sicilia (y teitl a ddefnyddid gan deyrnoedd Napoli) yn Awst 1383. Roedd Siarl o Durazzo hefyd yn hawlio'r orsedd a bu ymladd. Daeth byddin o Ffrainc dan Enguerrand de Coucy i gynorthwyo Louis, ond bu ef farw yn Bari yn 1384 cyn ennill grym parhaol.