Lot (Beibl)

Oddi ar Wicipedia

Cymeriad yn yr Hen Destament, mab Haran, brawd Abraham, oedd Lot. Ceir ei hanes yn Llyfr Genesis (Gen. 11-14, 19).

Lot a'i ferched

Dewisodd Lot ardal Bethel fel ei randir o etifeddiaeth ei dad Haran. Roedd hyn yn cynnwys tir helaeth ar lannau'r Iorddonen.

Aeth Lot a'i wraig i drigo yn ninas Sodom. Datguddiwyd cymeriad "anfoesol" y ddinas iddo pan letyodd angylion a chafodd ei rybuddio i ddianc ohoni cyn iddi gael ei dinistrio gan Duw.

Mewn un o'r hanesion enwocaf yn yr Hen Destament, dywedir fod gwraig Lot wedi ei throi'n biler halen am iddi anwybyddu rhybuddion yr angylion a throi'n ôl i weld dinistr Sodom a Gomorra.

Ffoes Lot i ddinas Soar ar ôl dinistr y ddwy ddinas.

Gorffenodd Lot ei ddyddiau mewn tlodi, yn byw efo'i ferched mewn ogof yn yr anialwch. Yn ôl yr hanes yn Llyfr Genesis, roedd merched Lot eisiau cael plant. Meddwasant Lot a chysgu gydag ef. Beichiogasant. Esgorodd yr hynaf ar fab, Moab, sylfaenydd dinas Nebo, un o ddinasoedd pwysicaf y Moabiaid. Esgorodd yr ieungaf ar Ben-Ammi, hynafiad yr Amonniaid.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Y Beibl Cymraeg Newydd
  • Thomas Rees et al., Y Geiriadur Beiblaidd (Wrecsam, 1926), d.g. Lot.