Loreen (cantores)
| Loreen | |
|---|---|
| Loreen ar ôl iddi ennill y Gystadleuaeth Cân Eurovision 2012 | |
| Gwybodaeth gefndirol | |
| Enw genedigol | Lorine Zineb Noka Talhaoui |
| Ganwyd |
Ebrill 10, 1983 |
| Cerddoriaeth | Dawns, Electronig, Synth |
| Galwedigaeth(au) | Cantores |
| Offeryn(au) cerdd | Llais |
| Blynyddoedd | 2004–presennol |
| Label(i) recordio | Warner Music (WMS) |
| Gwefan | loreen.se |
Cantores a chynhyrchydd o Sweden o dras Morocaidd-Berberaidd yw Lorine Zineb Noka Talhaoui (ganed 16 Hydref 1983). Mae yn fwy adnabyddus dan ei henw llwyfan Loreen (Lorén yn flaenorol). Mae Loreen yn fwyaf adnabyddus am ganu'r gân fuddugol "Euphoria" wrth gynrychioli Sweden yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2012. Daeth hi i sylw'r cyhoedd yn Sweden am y tro cyntaf ar ôl ymddangos ar y sioe Idol 2004. Fe'i dewiswyd i gyfranogi fel 'nod-chwiliwr' gan feirniaid y sioe a daeth yn bedwaredd yn y gystadleuaeth.
Cynnwys |
Bywyd cynnar[golygu]
Ganed Loreen yn Stockholm, Sweden yn 1983 ond symudodd ei theulu i Västerås, lle mynychodd ysgol.[1][2] Treuliodd y rhan fwyaf o'i bywyd yn Gryta yn eu harddegau, ardal breswyl yn Västerås.[3][4] Berberiaid ydy'i rhieni, o dde Moroco.[5]
Perfformiadau ar Idol 2004[golygu]
- Clyweliad: "Love is on the Way" - Celine Dion
- Wythnos 1 ('Fy idol'): "If I Ain't Got You" - Alicia Keys
- Wythnos 2 ('Topwyr y siart'): "Just Like a Pill" - Pink
- Wythnos 3 ('Cerddoriaeth enaid'): "I Wish" - Stevie Wonder
- Wythnos 4 ('Ffefrynnau Swedeg'): "Vill ha dig" - Freestyle / ('Traciau sain'): "(I've Had) The Time of My Life" - Bill Medley a Jennifer Warnes
- Wythnos 5 ('Max Martin'): "Stronger" - Britney Spears / ('Cân o flwyddyn geni'): "Every Breath You Take" - The Police
- Wythnos 6 ('Coctel'): "Where Do I Begin?" - Andy Williams a Shirley Bassey / ('Cân o flwyddyn geni'): "Thriller" - Michael Jackson
Gyrfa[golygu]
Yn 2005 rhyddhaodd Loreen y sengl "The Snake" gyda'r grŵp Rob'n'Raz. Gweithiodd hi wedyn fel cyflwynydd ar y sianel deledu TV400.[6]
Perfformiodd Loreen yng ngystadleuaeth Melodifestivalen 2011 gyda'i chân "My Heart is Refusing Me" a ysgrifennwyd gan Moh Denebi, Björn Djupström a hithau, gyda'r gobaith o gynrychioli Sweden yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2011. Canodd hi yn yr ail rownd gyn-derfynol yn Gothenburg a daeth hi'n bedwaredd gan ennill lle yn y rownd 'ail siawns' ond methodd hi symud ymlaen i'r rownd derfynol. Rhyddhawyd y sengl "My Heart is Refusing Me" ar 11 Mawrth 2011. Roedd y gân yn boblogaidd yn Sweden gan ennill y nawfed safle ar siart senglau Sweden.[7]
Perfformiodd Loreen ym Melodifestivalen 2012 gyda'i chân "Euphoria". Perfformiodd hi yn y rownd gyn-derfynol gyntaf ar 4 Chwefror 2012 ac mae hi wedi symud ymlaen yn syth i'r rownd derfynol a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2012 yn Stockholm. Enillodd hi Melodifestivalen ac o ganlyniad cynrychiolodd Sweden yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2012 gyda'i chân "Euphoria", gan ddod yn fuddugol.
Disgyddiaeth[golygu]
Senglau[golygu]
| Blwyddyn | Sengl | Lleoliad uchaf |
|---|---|---|
[8] |
||
| 2005 | "The Snake" (feat. Rob'n'Raz) | – |
| 2011 | "My Heart is Refusing Me" | 9 |
| "Sober" | 56 | |
| 2012 | "Euphoria" | 1 |
| TBD | "If She's The One" | – |
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ KP: Loreen KP11 2011
- ↑ [Musikläraren tror på seger http://vlt.se/kulturnoje/1.1575759-musiklararen-tror-pa-seger]
- ↑ [Loreen vinner Melodifestivalen http://vlt.se/kulturnoje/1.1575988-loreen-vinner-melodifestivalen]
- ↑ Loreen Q&A från Melodifestivalen 2011
- ↑ Loreen > Biography
- ↑ "Idol-Lorén får eget tv-program" Expressen
- ↑ SwedishCharts.com: Page for "My Heart is Refusing Me"
- ↑ SwedishCharts.com: Loreen page