Longtown, Swydd Henffordd
Pentref yn Swydd Henffordd, Lloegr, yw Longtown. Cafodd ei enw oherwydd ei fod yn stribyn hir o bentref.
Lleolir Longtown 10 milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r Fenni a 14 milltir i'r de-orllewin o Henffordd ar gwr dwyreiniol y Mynydd Du, yn agos i'r ffin â Chymru.
Bu Longtown yn rhan o arglwyddiaeth Gymreig Ewias yn yr Oesoedd Canol cynnnar. Fymryn i'r gogledd o'r pentref presennol, sefydlwyd clas yn perthyn i Feuno Sant yn y 6ed ganrif ar safle pentref Llanveynoe (Llanfeuno), hefyd yn Swydd Henffordd. Ar ôl i'r Normaniaid oresgyn Lloegr, codwyd castell mwnt a beili yno, sef Castell Longtown.
Dolenni allanol [golygu]
Trefi
Llanllieni · Rhosan ar Wy
Pentrefi
Clifford · Clodock · Dilwyn · Ewyas Harold · Kentchurch · Longtown · Lower Hergest · Llanddewi Cil Peddeg · Llanveynoe · Symonds Yat · Upper Hergest · Weston under Penyard