Loktudi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Loctudy (2).jpg

Tref a chymuned yn Llydaw yw Loktudi (Ffrangeg: Loctudy) sy'n borthladd pysgota a chyrchfan gwyliau glan y môr. Mae'n gorwedd ar aber afon Pont-l'Abbé.

Lleolir Loktudi yn arrondissement Kemper (Quimper) yn département Penn-ar-Bed (Finistère), ar orynys Penmarc'h yn Basse-Bretagne mewn rhan o Lydaw lle siaredir y Llydaweg.

Ystyr yr enw 'Loktudi' yw "lle neu gyrchfan pererindod Tudi" (cymharer Cymraeg Canol llog: "mangre cysegredig; mynachlog"). Ceir peth ansicrwydd ynglŷn â pha sant a olygir. Cred rhai ei fod yn cyfeiriad at Sant Tudi o Landevenneg tra bod eraill yn dadlau mai Sant Tudwal ydyw.

Gefeillir Loktudi gyda Abergwaun, Cymru a Ribadeo, Galicia.

Dolen allanol[golygu]

Flag of Brittany (Gwenn ha du).svg Eginyn erthygl sydd uchod am Lydaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.