Loch Rannoch
Oddi ar Wicipedia
Loch Rannoch gyda chopa Schiehallion yn y cefndir
Llyn yn awdurdod unedol Perth a Kinross yn Ucheldiroedd yr Alban yw Loch Rannoch (Gaeleg yr Alban: Loch Raineach). Mae afon Tummel yn llifo allan o'r llyn.
Mae'r llyn dros 9 milltir o hyd ond llai na milltir o led. Saif pentref Kinloch Rannoch ger rhan ddwyreiniol y llyn, a cheir crannog arno.