Loch Katrine
Oddi ar Wicipedia
Llyn gerllaw Stirling yn yr Alban yw Loch Katrine (Gaeleg: Loch Ceiterein). Mae'n lyn hir, cul, tua 13 km o hyd a 1 km o led, yn ymestyn ar hyd Srath Ghartain. Gan ei fod o fewn cyrraedd i Glasgow a dinasoedd eraill, mae'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid, a cheir teithiau llong ar y llyn. Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn.
Gweithreda'r llyn fel prif gronfa ddŵr Glasgow, ac adeiladwyd argae i godi ei lefel o tua 6 troedfedd. Ganed yr herwr Robert Roy MacGregor ger glan y llyn, a hwn yw'r llyn yn nofel Walter Scott The Lady of the Lake.