Loch Garman

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Adfeilion Abaty Selskar.

Prif dref Swydd Wexford yn ne-ddwyrain Gweriniaeth Iwerddon yw Loch Garman (Saesneg: Wexford). Saif heb fod ymhell o borthladd Rosslare, ar ochr ddeheuol aber Afon Slaney. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 18,163.

Sefydlwyd y dref gan y Llychlynwyr tua OC 800; daw'r enw Saesneg o'r Hen Norseg Veisafjǫrðr neu Waes Fiord. Ffôdd Gruffudd ap Cynan yma am loches ar ôl colli Brwydr Bron yr Erw. Yn 1169, cipiwyd y dref gan Dermot MacMurrough a'i gyngheiriad Normanaidd Robert Fitz-Stephen, mab Nest ferch Rhys ap Tewdwr. Yn y Canol Oesoedd, roedd yn sefydliad Seisnig, ac roedd hen ffurf o Saesneg a adwaenid fel "Yola" yn cael ei siarad yno hyd y 19eg ganrif.

Cipiwyd y dref gan fyddin Oliver Cromwell yn 1649; llosgwyd rhan helaeth o'r dref a lladdwyd llawer o'r trigolion. Yn ystod Gwrthryfel Gwyddelig 1798, cipiwyd y dref gan y gwrthryfelwyr.

Brodorion o Loch Garman oedd teulu Redmond, fu a rhan bwysig yng ngwleidyddiaeth Iwerddon yn y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif. Y mwyaf adnabyddus ohonynt yw John Redmond, a ddaeth yn arweimydd Y Blaid Seneddol Wyddelig. Cynhelir Gŵyl Opera yno bob hydref.