Locale
Oddi ar Wicipedia
Yng nghyd-destun meddalwedd mae locale yn set o baramedrau sy'n diffinio iaith a gwlad neu leoliad y defnyddiwr yn ogystal ag unrhyw ffactorau eraill sy'n dylanwadu ar gyflwyniad gwybodaeth.
Fel arfer mae dynodwr locale yn cynnwys o leiaf dynodwr iaith a dynodwr rhanbarth. Mae cy_GB yn nodweddiadol ar gyfer y Gymraeg yng ngwledydd Prydain.
Mae'n gallu dylanwadu ar y drefn coladu, fformatau dyddiad ac amser, confensiynau arian a rhif, iaith enwau llefydd, misoedd ac yn y blaen. Mae'r Storfa Ddata Iaith Gyffredin ( CLDR ) yn rhan o Unicode ac mae'n cadw gwybodaeth locale ar gyfer y rhan fwyaf o ieithoedd a rhanbarthau.
Ieithoedd Cyfrifiadurol [golygu]
Enghreifftiau o'r defnydd o locale gyda ieithoedd rhaglennu gwahanol
Perl
my $dyddiad = DateTime->new( year=>2012, month=>6, day=>15, locale=>'cy', ); print $dyddiad->date(); print $dyddiad->month_name(); print $dyddiad->day_name(); print $dyddiad->quarter_name();
Allbwn:
2012-06-15
Mehefin
Dydd Gwener
2il chwarter