Llywodraeth Cymru

Oddi ar Wicipedia
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Llywodraeth Cymru (Saesneg: Welsh Government) yw'r llywodraeth ar gyfer Cymru sy'n cynnwys y Prif Weinidog a'i Gabinet. Hyd mis Mai 2011, yr enw oedd Llywodraeth Cynulliad Cymru (Saesneg: Welsh Assembly Government). Newidiwyd yr enw er mwyn osgoi dryswch rhwng y llywodraeth ei hun sydd, fel pob llywodraeth, yn gorff gweithredol, a Senedd Cymru, sy'n gorff deddfwriaethol.[1] Fe'i cyfansoddwyd dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006; mae Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru yn ddau gorff ar wahân - yr un fath â Senedd y Deyrnas Unedig a Llywodraeth y Deyrnas Unedig neu unrhyw lywodraeth a senedd arall. Y corff democrataidd, etholedig, sy'n cynrychioli buddiannau Cymru a'i phobl, sy'n llunio cyfreithiau Cymru ac sy'n gwneud Llywodraeth Cymru'n atebol yw Senedd Cymru.[2] Hyd at Mai 2020 yr enw ar Senedd Cymru oedd 'Cynulliad Cenedlaethol Cymru'.

Aelodau'r Cabinet a Gweinidogion[golygu | golygu cod]

Dyma gyfansoddiad presennol Llywodraeth Cymru (ers 21 Mawrth 2024):[3]

Ysgrifenyddion y Cabinet[golygu | golygu cod]

Portffolio Enw Etholaeth Plaid Tymor
Prif Weinidog Vaughan Gething AS De Caerdydd a Phenarth Llafur 2024–
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet Rebecca Evans AS Gŵyr Llafur 2021–
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Eluned Morgan AS Canolbarth a Gorllewin Llafur 2021–
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg Jeremy Miles AS Castell-Nedd Llafur 2024–
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth Ken Skates AS De Clwyd Llafur 2024–
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol Lesley Griffiths AS Wrecsam Llafur 2024–
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Huw Irranca-Davies AS Ogwr Llafur 2024–
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Lynne Neagle AS Torfaen Llafur 2024–
Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw AS Pontypridd Llafur 2021–
Prif Chwip a Threfnydd y Senedd Jane Hutt AS Bro Mogannwg Llafur 2024–

Gweinidogion[golygu | golygu cod]

Portffolio Enw Etholaeth Plaid Tymor
Y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar Jayne Bryant AS Gorllewin Casnewydd Llafur 2021–
Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol Dawn Bowden AS Merthyr Tudful a Rhymni Llafur 2024–
Y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol Hannah Blythyn AS Delyn Llafur 2021–


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Carwyn Jones unveils three new faces in Welsh cabinet. BBC (13 Mai 2011).
  2. "Cynulliad Cenedlaethol Cymru". 8 Medi 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-04. Cyrchwyd 30 Ebrill 2012.
  3. "Cabinet newydd Vaughan Gething: Newidiadau i amaeth, addysg a thrafnidiaeth". newyddion.s4c.cymru. 2024-04-02. Cyrchwyd 2024-04-02.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.