Llywarch ap Hyfaidd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llywarch o Ddyfed)
Llywarch ap Hyfaidd
Ganwyd9 g Edit this on Wikidata
Bu farw904 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Dyfed Edit this on Wikidata
TadHyfaidd Edit this on Wikidata
PlantElen ferch Llywarch Edit this on Wikidata

Roedd Llywarch ap Hyfaidd (bu farw 904) yn frenin Teyrnas Dyfed yn ne-orllewin Cymru hyd y flwyddyn 904/905 pan oresgynwyd Dyfed gan Cadell ap Rhodri, brenin Seisyllwg a'i fab, Hywel Dda. Roedd yn fab i'r brenin Hyfaidd ap Bledrig ac yn gydoeswr ag Anarawd ap Rhodri, brenin Gwynedd a Merfyn ap Rhodri, brenin Powys.

Ni wyddom pryd yr esgynodd Llywarch i orsedd Dyfed ac mae hanes ei fywyd yn dywyll. Am gyfnod byr iawn ar ôl ei farwolaeth yn 904 bu'r deyrnas yn nwylo ei frawd iau, Rhodri, ond cadarnhaodd Hywel ei reolaeth yn fuan wedyn. Priododd Hywel ag Elen ferch Llywarch, i gyfreithloni ei hawl i'r orsedd a sedfydlu teyrnas Deheubarth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1992), tud. 84.